Gustav Mahler
cyfansoddwr a aned yn 1860 From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Cyfansoddwr o Awstria oedd Gustav Mahler (7 Gorffennaf 1860 – 18 Mai 1911). Roedd yn fwyaf enwog yn ystod ei fywyd fel arweinydd opera a cherddorfeydd, ond ers ei farw daethpwyd i'w gydnabod fel un o'r cyfansoddwyr ôl-ramantaidd pwysicaf. Un o'i weithiau mwyaf poblogaidd yw ei 2ail symffoni, Yr Atgyfodiad.
Treuliodd y flwyddyn olaf o'i oes yn gweithio yn yr Unol Daleithiau fel cyfarwyddwr cerddorol Cerddorfa Ffilharmonig Efrog Newydd (1910-11). Ond syrthiodd yn sâl yn 1911 yn Efrog Newydd, ac ar ôl cysylltu gyda meddygon ym Mharis, ddychwelodd gyda'i wraig Alma Mahler i Fienna, Awstria lle bu farw.
Remove ads
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
