Israeli Iddewieg gynhenid a anwyd ar dir Israel ''Eretz Israel'' (yn hytrach nag yn yr alltudiaeth).. From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r term sabra neu tsabra mewn trawslythreniad mewn ieithoedd eraill (o'r Hebraeg צַבָּר tzabar)[1] yn dynodi'r poblogaethau Iddewig a anwyd cyn 1948 yn Israel, a elwid bryd hynny fel Palestina dan Fandad Gwlad Israel (Eretz Israel) neu'r Wlad Sanctaidd , a'u disgynyddion ymhlith y boblogaeth Israel bresennol. Trwy estyniad, mae'r term yn cyfeirio at bawb a anwyd yn ngwladwriaeth Israel a'i thiriogaethau hawliedig (Israel heddiw, Palesteina, Llain Gaza, y Lan Orllewinol, a Jerwsalem). Mae rhai hefyd yn ychwanegu tiriogaethau Penrhyn Sinai a Ucheldiroedd Golan.[2][3]
Enghraifft o'r canlynol | term, enw |
---|---|
Math | Iddewon, Israeliaid |
Poblogaeth | 4,201,000 |
Rhan o | Iddewon |
Iaith | Hebraeg |
Enw brodorol | צבר |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Daw'r gair o'r Hebraeg tzabar [3] (enw'r cactws opuntia), mewn cyfeiriad ffigurol at ddycnwch a chymeriad pigog y planhigyn anialwch hwn, sy'n cuddio tu mewn tyner a blas melys.
Daeth y term i fodolaeth yn y 1930au [4][5] ar ôl tonnau o fewnfudo (aliyah), yn bennaf gan Iddewon o Ddwyrain Ewrop, i diriogaeth Palesteina. Roedd y term yn wahaniaeth i Iddewon a oedd wedi symud i'r ardal neu a oedd yn dal i fyw yn y diaspora. Mae'n drosiad o gael eich gwreiddio yn y famwlad yn groes i bob disgwyl.
Yn enwedig ers sefydlu'r wladwriaeth, mae nifer y bobl hyn wedi cynyddu'n sydyn. Roedd yn fwy na 4 miliwn yn 2010, tua 70% o'r boblogaeth, a chododd i 75% yn 2015.[6] Mae'r ieithydd Israelaidd, Ruvik Rosenthal, yn ei "Dictionary of Slang" (argraffiad Hebraeg), yn disgrifio sut oedd y term yn cael ei ddefnyddio a'i ddeall gan y mudiad Seionaidd: Tra yr oedd yr " hen Iuddewon " wedi eu geni yn y Galut (alltudiaeth, diaspora), tyfodd yr "Iddewon newydd" yn y cenedl ar y dechreu gan mwyaf. Yr oedd yr "hen Iddewon" yn siarad Hebraeg ag acen doredig, tra yr oedd yr "Iddewon newydd" yn dyfod i fyny yn siarad eu mamiaith. Yn ychwanegol at hyn roedd y ffaith bod gan bobl ifanc hawliau cyfartal – hynny yw, dynion a merched fel ei gilydd – ar gyfer y Lluoedd Amddiffyn Israel a hyfforddwyd.
Mae ystyriaeth wyddonol o'r term, sydd bellach wedi dod yn chwedl, ei wneud gan y cymdeithasegydd, Az Almog yn ei lyfr, The Sabra - The Creation of the New Jew.[7]
Ymhlith y Sabras adnabyddus byddai pobl fel y Cadfridog Moshe Dayan a anwyd ar Cibwts Degania Alef ar Fôr Galilea a'r cadfridog ac yna Prif Weindiog Israel, Ariel Sharon. Ganwyd y ddau ar dir Israel, yn wahanol i'r arweinwyr cynnar, megis David Ben-Gurion ac eraill a aned yn Ewrop.
Cysylltir y Sabra nodweddiadol o ganol yr 20g gydag un oedd yn gwisgo het tembel neu kova tembel ("het ffŵl/twpsyn"). Roedd yn het Dwrcaidd yn wreiddiol, a dechreuodd yr het tembel gael ei chynhyrchu ym Mhalestina y Mandad Brydeinig o ganol y 1930au ymlaen gan ATA (‘Tecstiliau Cynhyrwyd ar ein Tir'; Arigim Totzeret Artzeinu yn Hebraeg). Fe'i gwisgwyd gan weithwyr caib a rhaw ac amaethwyr hyd at yr 1980au gan ddod yn symbol o'r wladwriaeth Iraeli a'r Iddewon cynhenid, Sabra Seinonistaidd. Fei'i boblogeiddiwyd neu anfarwolwyd hefyd gan gymeriad cartŵn mewn papurau Israeli, Srulik. Mae'r gair "tembel" yn Twrceg yn golygu "diogyn", tra bod tambal neu tambel yn Arabeg yn golygu "ffŵl" neu "twpsyn".[8]
Ceir hwmws o'r enw Sabra Hummus a gynhyrchir gan gwmni Sabra-Blue & White Foods yn 1986. Gwerthwyd y cwmni i wneuthurwr bwyd Israeli, y Strauss Group yn 2005. Yn ôl yr ymgyrchwyr, mae'r gorfforaeth sy'n adnabyddus am ei chefnogaeth benodol i Lu Amddiffyn Israel (IDF), sef brigadau milwyr traed Golani a Givati elitaidd.[9]
Bu i'r cymeriad ffuglennol cartŵn, Sabra gan Marvel Comics, dderbyn gwrthwynebiad gan wylwyr Arabaidd ac eraill.[10] Mae'r cymeriad, "fersiwn Israel o Captain America" yn ôl rhai y ffilm wedi ei seilio ar y comics, Captain America: New World Order i'w darlledu yn 2024. Dadlenwyr y cymeriad Sabra gyntaf yn storiau comic The Incredible Hulk yn yr 1980au. Chwaraeir Sabra gan yr actores Israeli ac Iddewes, Shira Haas (Shtisel, The Zookeeper's Wife). Mae'r cymeriad yn gwisgo Seren Dafydd ar ei ffurfwisg ac yn asiant i'r Mossad (gwasanaeth cuddwybodaeth Israel).
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.