gwasgariad o gymunedau ethnig From Wikipedia, the free encyclopedia
Term o darddiad Groegeg yw diaspora (mae'n deillio o'r ferf Roegaidd διασπείρω, diaspeirō; yn llythrennol "gasgaraf", "gwasgaraf ar hyd"; διά (dia), "rhwng, trwy, ar draws" a'r ferf σπείρω (speirō) "hauaf", "gwasgaraf")[1]. Defnyddir y termau gwasgariad ac alltudiaeth hefyd yn y Gymraeg.[2] a gellid awgrymu diasbora fel sillafiad Cymreig sy'n driw i ynganiad y gair. Yr ystyr gwreiddiol yw "gwasgariad pobl yn y byd ar ôl cefnu ar y mannau tarddiad" neu "wasgariad mewn gwahanol rannau o'r byd o bobl sy'n cael eu gorfodi i gefnu ar eu tarddiad" a gan helaeth "gwasgariad o unigolion a gasglwyd gynt mewn grŵp".
Enghraifft o'r canlynol | meta-ddosbarth o'r radd flaenaf |
---|---|
Math | mudo dynol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae diaspora yn boblogaeth sydd wedi'i gwasgaru ar draws rhanbarthau sydd ar wahân i'w darddiad daearyddol.[3] Yn hanesyddol, defnyddiwyd y gair yn gyntaf wrth gyfeirio at wasgariad Groegiaid yn y byd Hellenig, ac yn ddiweddarach Iddewon ar ôl alltudiaeth Babilonaidd.[4][5] Defnyddir y gair "diaspora" heddiw i gyfeirio at bobl sy'n uniaethu â lleoliad daearyddol penodol, ond sy'n byw yn rhywle arall ar hyn o bryd.
Y diaspora par excellence yw un yr Iddewon[2] yn yr hen fyd (alltudion Iddewig), ar ôl yr alltudiadau olynol i Asyria (721 CC) a Babilon (586 CC, alltud Babilonaidd) ac yn bennaf oll yn dilyn diwedd endid gwleidyddol Iddewig ym Mhalesteina ar ôl goresgyniad milwrol y Rhufeiniaid a dinistriad ddwbl Teml Jerwsalem yn 70 a 135 OC . Daeth y thema o ddychwelyd Iddewon coll i Balestina yn un o'r rhai mwyaf cyffredin mewn llenyddiaeth apocalyptaidd a messianiaeth Iddewig. Y term am fyw yn y diaspora i'r Iddewon yw y Galut sef "yr alltudiaeth" a gelwyr ymfudo i wlad Israel yn Aliyah.
Mae'r term diaspora wedi'i gymryd yn ddiweddar i ddynodi "gwasgariad aelodau cymuned mewn gwledydd lle mae mwyafrif y trigolion yn dilyn ffydd wahanol". Yng nghymdeithaseg mudo, fe'i defnyddir i nodi'r berthynas (sefydliadol fwy neu lai) rhwng aelodau o gymuned ymfudol mewn trydedd wlad, gyda'r nod o gyd-gefnogaeth a datblygiad y wlad darddiad trwy anfon taliadau. Fodd bynnag, mae ysgolheigion eraill yn anghytuno â'r defnydd o'r term.
Yn ôl adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig yn 2019, diaspora India yw alltud mwyaf y byd, gyda phoblogaeth o 17.5 miliwn, ac yna'r alltud Mecsicanaidd, gyda phoblogaeth o 11.8 miliwn, a'r alltud Tsieineaidd, gyda phoblogaeth o 10.7 miliwn[6]
Cafwyd disapora Gymreig yn Lloegr, ac yna gogledd America a'r Unol Daleithiau gan gynnwys ymdrech ar greu gwladfeydd Cymreig yn yr hyn ddaeth yn dalaith Pennsylvania a Phatagonia.[7]
Bu ymfudo o Gymru a chreu sawl diaspora Gymreig yng Ngogledd America. Yn ei plith roedd Gwladfa Gymreig, Cambria, a sefydlwyd gan Morgan John Rhys yng ngorllewin Pennsylvania ar ddiwedd 18g. Yn hanesyddol yn yr 19g, cafwyd cymunedau diaspora Cymreig yn nhalaith Ohio a'r gwaith dur yno. Rhwng y blynyddoedd 1860 a 1920 ymsefydlodd tua 80,000 o fewnfudwyr Cymreig yn yr Unol Daleithiau.[8] Yn hanesyddol roedd y Cymry alltud yn UDA wedi'u canoli o amgylch taleithiau canol yr Iwerydd, New England, Ohio, Georgia ac Alabama. Gyda Pennsylvania fel y ganolfan fwyaf, lle mae nifer o enwau lleoedd fel Bala Cynwyd, Berwyn ac Uwchlan yn dangos tarddiad eu sylfaenwyr.[9]
O bosib y diaspora Gymreig enwocaf yw ymgais sefydlu'r Wladfa Gymraeg ym Mhatagonia yn 1865. Mae trafodaethau ar natur yr alltudiaeth yn un sy'n dal i beri trafodaeth a diddordeb fawr yng Nghymru.[10]
Ceir ymgeisiau o bryd i'w gilydd i gysylltu Cymru gyda'i diaspora. Cynhelir seremoni y Cymry ar Wasgar - a elwir bellach yn Cymru a'r Byd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Yn y seremoni hon, groesewir Cymry sydd yn byw dramor ac sydd wedi dychwelyd i'r Eisteddfod, i ymgynnull ar brif lwyfan yr Eisteddfod. Cydlynir gan Undeb Cymru a'r Byd.
Cafwyd galwadau ar i Lywodraeth Cymru estyn llaw a gwneud gwell defnydd o'r diaspora Gymreig fel ffordd o godi proffil Cymru yn fyd-eang er lles masnach, busnes a diwylliant a thwristiaeth.[11] Cyhoeddwyd dogfen weithredu gan Lywodraeth Cymru ar y pwnc yn 2020.[12] Bu i Blaid Cymru hefyd alw ar y Llywodraeth Cymru i "ymgysylltu â Chymry ar Wasgar".[13]
Mae Cymru yn gartref i sawl gymuned diaspora.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.