Rupert Murdoch
cyhoeddwr cyfryngau a dyn busnes Americanaidd, a aned yn Awstralia / From Wikipedia, the free encyclopedia
Dyn busnes rhyngwladol o Awstralia yw Rupert Keith Murdoch AC, KSG (ganwyd 11 Mawrth 1931).
Rupert Murdoch | |
---|---|
Ganwyd | 11 Mawrth 1931 Melbourne |
Man preswyl | Adelaide, Melbourne, Yass, Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, Awstralia |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | golygydd, entrepreneur, ariannwr, cyhoeddwr, person busnes |
Swydd | cadeirydd, executive chairman, executive chairman, executive chairman, Actio, cadeirydd, cadeirydd |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol |
Tad | Keith Murdoch |
Mam | Elisabeth Murdoch |
Priod | Anna Murdoch Mann, Wendi Murdoch, Jerry Hall, Patricia Booker |
Plant | James Murdoch, Elisabeth Murdoch, Lachlan Murdoch, Grace Helen Murdoch, Chloe Murdoch, Prudence Murdoch |
Gwobr/au | Marchog Uwch Groes Urdd Sant Grigor Fawr, Medal Canmlwyddiant, Cydymaith Urdd Awstralia, Commander First Class of the Order of the White Rose of Finland, Financial Times Person of the Year, Great Immigrants Award, Medal Bodley |
Etifeddodd News Limited gan ei dad yn 1950 gan weithio am ychydig fel Prif Weithredwr y cwmni.[1] Ganwyd Murdoch ym Melbourne, daeth i fyw i Loegr yng nghanol y 1960au gan brynu'r papurau newydd News of the World, The Sun ac yn ddiweddarach The Times. Mae ei reolaeth dynn ar gwmni teledu BSkyB wedi golygu, yn ôl llawer, fod ganddo reolaeth (neu fonopoli hyd yn oed) ar y dewis o chwaraeon a newyddion a welir ar y teledu, yn arbennig gemau pêl-droed.
Yn y 2010au wynebodd gyhuddiadau fod rhai o'i gwmniau (gan gynnwys News of the World) wedi bod yn hacio ffonau pobl ac ar hyn o bryd (2013) mae heddluoedd gwledydd Prydain a'r UDA yn ymchwilio i'r cyhuddiadau hyn.[2] Rhoddodd Murdoch a'i fab James, a'i gyn-CEO Rebekah Brooks dystiolaeth o flaen Ymchwiliad Leveson ac yna o flaen Pwyllgor Seneddol yn Llundain.[3]