From Wikipedia, the free encyclopedia
Newyddiadurwraig a chyn-olygydd papur newydd Seisnig ydy Rebekah Mary Brooks (ganed Wade, 27 Mai 1968). Hi oedd prif weithredwr News International o 2009 a 2011, wedi iddi weithio fel golygydd ieuengaf ar bapur newydd Prydeinig pan oedd yn gweithio ar y News of the World[1] (o 2000 tan 2003) ac fel golygydd benywaidd cyntaf The Sun[2] (o 2003 tan 2009). Priododd yr actor Ross Kemp yn 2002 (ond ni chymrodd ei gyfenw); yn 2009 ysgarodd y ddau,[3] a phriododd y cyn-hyfforddwr rasio ceffylau a'r awdur Charlie Brooks.
Rebekah Brooks | |
---|---|
Ganwyd | 27 Mai 1968 Warrington |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr |
Swydd | prif olygydd, prif weithredwr, prif weithredwr |
Priod | Charlie Brooks, Ross Kemp |
Mae Brooks yn ffigur blaenllaw yn sgandal hacio ffonau News International, gan mai hi oedd golygydd News of the World pan haciwyd ffonau'n anghyfreithlon gan y papur newydd. Ar 15 Gorffennaf 2011, ymddiswyddodd Brooks fel prif weithredwr News International, yn sgil beirniadaeth o'i rôl hi yn y sgandal.[4] Ar 17 Gorffennaf 2011, cafodd ei harestio ar amheuaeth o gynllwynio i rhyng-gipio cyfarthrebiadau ac ar amheuaeth o lygredigaeth - trwy roi taliadau anghyfreithlon i swyddogion cyhoeddus.[5][6] Ar 13 Mawrth 2012, cafodd ei harestion unwaith eto ar amheuaeth o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.[7] Ar 15 Mai 2012, cyhuddwyd Brooks o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.[8] Mewn ymateb i hyn, dywedodd Brooks ei bod ei "drysu" gan y penderfyniad hwn.[9]
Ymddangosodd Brooks a'i gŵr yn Llys Ynadon San Steffan ar 13 Mehefin ar gyhuddiadau'n gysylltiedig â'r sgandal hacio ffonau. Dywedodd y Barnwr Ardal Howard Riddle y byddai'r achos yn erbyn y diffynyddion yn digwydd yn hwyrach yn Llys y Goron Southwark. Rhoddwyd fechnïaeth i Brooks a'i gŵr tan 22 Mehefin.
Ar 24 Gorffennaf 2012, cyhoeddodd Gwasanaeth Erlyn y Goron y byddai Brooks, ynghyd â chwech chyn-aelod o staff o'r News of the World, yn cael eu cyhuddo o gynllwynio i ryng-gipio cyfathrebiadau heb hawl cyfreithiol, rhwng 3 Hydref 2000 a'r 9 Awst 2006. Yn ogystal â'r cyhuddiad "generig" hwn, cyhuddwyd Brooks gyda phedwar achos penodol o gynllwynio i ryng-gipio cyfathrebiadau heb hawl cyfreithiol. Roedd y cyhuddiadau hyn yn ymwneud â hacio pheiriant ateb ffôn symudol y ferch ysgol a lofruddiwyd, Milly Dowler.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.