prif ddinas Victoria, Awstralia From Wikipedia, the free encyclopedia
Melbourne (Woiwurrungeg: Narrm) yw prifddinas talaith Victoria, yn Awstralia. Yn 2015 roedd gan y ddinas boblogaeth o 4,529,500. Melbourne yw dinas fwyaf Victoria, gyda dros 70% o drigolion y dalaith yn byw yno.
Math | dinas, region of Victoria, dinas fawr, ardal fetropolitan, prifddinas y dalaith, canolfan ariannol, metropolis |
---|---|
Enwyd ar ôl | William Lamb, Ail is-iarll Melbourne |
Poblogaeth | 5,031,195 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+10:00, UTC+11:00, Australia/Melbourne |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg Awstralia |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Awstralia |
Arwynebedd | 9,993 km² |
Uwch y môr | 31 metr |
Gerllaw | Afon Yarra, Port Phillip |
Yn ffinio gyda | Barwon South West, Grampians, Loddon Mallee, Hume, Gippsland |
Cyfesurynnau | 37.8142°S 144.9631°E |
Cod post | 3000–3207 |
Cafodd Melbourne ei sefydlu ym 1835, pan gyrhaeddodd gwladychwyr o Launceston, yn Tasmania. Tyfodd y ddinas yn sylweddol iawn ar ôl 1851, pan ddarganfuwyd aur yn yr ardal rhwng Ballarat a Bendigo, yng nghanolbarth Victoria.
Pan gafodd Awstralia ei annibyniaeth ym 1901, cafodd Melbourne ei wneud yn sedd y llywodraeth, tan 1927, pan wnaed Canberra yn brifddinas newydd y wlad.
Ym 1956 cafodd y Gemau Olympaidd eu cynnal yn y ddinas.
Mae yna nifer o fudwyr wedi symud i Melbourne dros y blynyddoedd. Cafwyd 43% o bobl sy'n byw yn Melbourne eu geni tu allan i Awstralia. Dangosir y cynnydd ym mhoblogaeth Melbourne yn y tabl isod.
Poblogaeth Melbourne y flwyddyn | ||
---|---|---|
1836 | 177 | |
1851 | 29,000 | |
1854 | 123,000 | (gold rush) |
1860 | 140,000 | |
1880 | 280,000 | |
1890 | 490,000 | |
1895 | 900,000 | (cwymp economaidd) |
1956 | 1,500,000 | |
1981 | 2,806,000 | |
1991 | 3,156,700 | (dirwasgiad) |
2001 | 3,366,542 | |
2004 | 3,592,975 | |
2006 | 3,720,300 | (amcangyfrif 2006) |
2030 | 4,500,000 | (rhagamcaniad) |
Agorwyd rheilffordd rhwng Melbourne a Sandridge (erbyn hyn Porthladd Melbourne) ar 12 Medi 1854 a daeth eraill i Sant Cilda ym 1857, Gogledd Brighton ym 1859, Hawthorn ym 1861 ac Essendon ym 1960. Wedi darganfod aur yn Victoria]], agorwyd rheilffyrdd i Sunbury ym 1859, Bendigo ym 1862 ac Echuca ym 1864.
Trydaneiddiwyd y rheilffyrdd maestrefol o 1919 ymlaen.[1]
Mae Gorsaf reilffordd Stryd Flinders y brif orsaf ar gyfer gwasanaethau lleol, sydd i gyd yn mynd ar gylch tanddaearol o dan ganol y ddinas. Mae rhai o'r gwasanaethau V line i drefi eraill yn dalaith Victoria yn mynd o Stryd Flinders.
Mae gwasanaethau eraill V line tu mewn Victoria, a hefyd gwasanaethau i Adelaide a Sydney yn defnyddio Gorsaf reilffordd Croes y De.
Mae gan Melbourne rwydwaith eang o dramffyrdd trydanol. Yn wreiddiol defnyddiwyd ceffylau, ond dechreuodd gwasanaeth rhwng Melbourne a Richmond yn defnyddio ceblau ar 11 Tachwedd 1885 ac estymwyd y rhwydwaith yn sydyn. Dechreuodd tramfyrdd trydanol ym 1889[2]
Dechreuodd gwasanaethau bws yn 1860au, eto'n defnyddio ceffylau.
Cynhelir criced rhyngdaleithiol a rhyngwladol ym Maes criced Melbourne yn ystod yr haf, a Pel-droed rheolau Awstraliaidd yn ystod y gaeaf.[3]
Cynhelir rasau ceffylau ar Gae Râs Flemington.[3]
Cynhelir Grand Prix Awstralia ym Mharc Albert.[3] Mae hefyd llyn a chlwb hwylio yn y parc.
|
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.