![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/7/7c/GHd_svvW0AAOd81.jpeg/640px-GHd_svvW0AAOd81.jpeg&w=640&q=50)
Rhyfel Gaza (2023‒24)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Rhan o'r gwrthdaro rhwng Israel a'r Palesteiniaid yn Llain Gaza yw Rhyfel Gaza (2023) a sbardunwyd gan ymosodiad o dir Israel a lansiwyd o'r Llain ar 7 Hydref 2023. Y prif garfan Palesteinaidd yw Hamas, a lywodraetha Llain Gaza ers 2007, ac ymhlith y grwpiau Palesteinaidd llai mae Mudiad y Jihad Islamaidd, y Ffrynt Democrataidd (DFLP), a Gwâl y Llewod. Bu'r goresgyniad, a elwir yn Cyrch Llif al-Aqsa gan Hamas, yn cynnwys ymosodiadau yn erbyn cymunedau a sifiliaid yn ogystal â chyrchoedd ar dargedau milwrol.[1] Ymatebodd Lluoedd Amddiffyn Israel (IDF) gyda'r gwrthymosodiad Ymgyrch Cleddyfau Haearn.[2]
Mae'r erthygl hon yn cofnodi mater cyfoes. Gall y wybodaeth sydd ynddi newid o ddydd i ddydd. |
![]() Dinas yn Llain Gaza yn Ionawr 2024, wedi'i fomio gan fyddin Israel. | |
Enghraifft o'r canlynol | rhyfel ![]() |
---|---|
Dyddiad | 2023 ![]() |
Lladdwyd | 11,500, 16,075, 17,180, 21,600, 24,800, 31,475, 34,904 ![]() |
Rhan o | Gwrthdaro Israel-Gaza ![]() |
Dechreuwyd | 7 Hydref 2023 ![]() |
Daeth i ben | Unknown ![]() |
Rhagflaenwyd gan | 2023 Israeli–Palestinian crisis ![]() |
Lleoliad | Lefant ![]() |
Yn cynnwys | goresgyniad Llain Gaza gan Israel, ymosodiadau gan fyddin Israel ar ysbytai yn ystod Rhyfel Israel-Palesteina yn 2023 a 2024, ymosodiadau o'r awyr gan Israel ar wersylloedd sifiliaid Palesteinaidd yn Rhyfel Israel-Palesteina 2023 a 2024, ymosodiadau o'r awyr gan Israel ar ysgolion Palesteinaidd yn Rhyfel Israel-Palesteina 2023 a 2024 ![]() |
Enw brodorol | عملية طوفان الاقصى ![]() |
Rhanbarth | Israel, Llain Gaza ![]() |
![]() |
Ar 8 Tachwedd 2023 galwodd Senedd Cymru am gadoediad; mae hyn yn debyg i ddatganiad Senedd yr Alban, ond yn gwbwl groes i farn San Steffan a Phlaid Lafur y DU.[3]
Mae'r rhyfel yn cynrychioli trobwynt yn y gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd, a'r gwrthdaro rhwng Israel ac Hamas yn benodol. Rhagflaenwyd yr ymladd gan flwyddyn o drais, gan gynnwys ymledu'r gwladfeydd Israelaidd yn y Lan Orllewinol a thrais gan setlwyr yn erbyn Palesteiniaid,[4] cyrch milwrol ar wersyll ffoaduriaid Jenin, terfysg ym Mosg Al-Aqsa yn Jeriwsalem, a brwydro yn Gaza. Yn 2023, hyd at gychwyn y rhyfel, lladdwyd o leiaf 247 o Balesteiniaid gan luoedd Israel, a 32 o Israeliaid a dau dramorwr gan Balesteiniaid. Datganodd Hamas yn Hydref 2023 bod y digwyddiadau hyn yn gyfiawnhad am y goresgyniad, a galwyd ar yr holl Balesteiniaid i ymuno â'r frwydr i "yrru'r meddianwyr allan a dymchwel y muriau". Mewn ymateb, cyhoeddodd Benjamin Netanyahu, Prif Weinidog Israel, argyfwng a rhyfel, ac mae rhai o'r gwrthbleidiau wedi galw am ffurfio llywodraeth undod cenedlaethol.[5]
Dechreuodd yr ymladd yn y bore ar 7 Hydref 2023 pan saethwyd o leiaf 3000 o rocedi gan Hamas tuag at Israel, a chyrchoedd ar diriogaeth Israel gyda cherbydau.[6] Torrodd lluoedd Palesteinaidd hefyd drwy'r gwahanfur rhwng Israel a Llain Gaza a thrwy croesfannau ar y ffin, ac ymosodasant ar gymunedau ac adeiladau milwrol Israelaidd cyfagos, gan ladd 1,200 o Israeliaid a dinasyddion o wledydd eraill.[7] Cyflawnwyd trais yn erbyn sifiliaid gan ryfelwyr Hamas o'r cychwyn, gan gynnwys cyflafan mewn gŵyl cerddoriaeth a laddodd o leiaf 260 o bobl. Mae rhyw 200 o filwyr a sifiliaid Israelaidd, gan gynnwys plant, wedi eu herwgipio gan ymladdwyr Palesteinaidd ac wedi eu cymryd yn wystlon yn Llain Gaza.[8]
Aeth Israel ati i alw'r lluoedd wrth gefn a chlirio'r ymladdwyr Palesteinaidd o'i thiriogaeth, a thalu'r pwyth yn ôl gyda chyrchoedd awyr ar dargedau milwrol a strategol yn Llain Gaza. Mae dwysedd poblogaeth y llain yn hynod o uchel, a cafwyd o leiaf 20 o achosion o ffrwydron yn taro isadeiledd sifil, gan gynnwys cartrefi, mosgiau, ac ysbytai. Yn ôl y Weinyddiaeth Iechyd yn Gaza, bu farw o leiaf 900 o Balesteiniaid yn ystod tridiau cyntaf y rhyfel, mewn ysgarmesau saethu ac o ganlyniad i gyrchoedd awyr, gan gynnwys 260 o blant. Hawliodd yr IDF ladd "mwy na 1,500" o ymladdwyr Palesteinaidd y tu mewn i ffiniau Israel. Cyhoeddodd y Cenhedloedd Unedig bod mwy na 200,000 o Balesteiniaid—un o bob deg o boblogaeth Llain Gaza—wedi eu dadleoli ers dechrau'r brwydro. Cynyddodd y braw o argyfwng dyngarol wed i Israel dorri cyflenwadau bwyd, dŵr, trydan, a thanwydd i'r llain, a fu dan warchae ers 2007.[9]
Condemniwyd Hamas gan nifer o wledydd y Gorllewin,[10] a chafodd yr ymosodiadau eu hystyried yn derfysgaeth.[11] Mae nifer o wledydd eraill, yn enwedig yn y byd Mwslimaidd, wedi disgrifio meddiannaeth y Tiriogaethau Palesteinaidd a'r gwarchae ar Lain Gaza fel achos sylfaenol y gwrthdaro ac yn rhoi'r bai ar lywodraeth Israel am waethygu'r sefyllfa, ac yn galw am ddatchwyddo'r ymladd a chyhoeddi cadoediad.[12][13] Cyhuddwyd Hamas ac Israel ill dau o droseddau rhyfel gan Human Rights Watch.[14] Datganodd llywodraeth Unol Daleithiau America y byddai'n cefnogi Israel trwy symud ei chludydd awyrennau USS Gerald R. Ford a'i grŵp brwydro, a jetiau milwrol, i ddwyrain y Môr Canoldir a darparu cyfarpar a ffrwydron rhyfel ychwanegol i'r IDF.[15] Erbyn 8 Hydref ymledodd y gwrthdaro i Libanus, gyda Hezbollah a Brigadau Al-Quds yn brwydro'n erbyn lluoedd Libanus ac Israel.[16][17]