Jeriwsalem
From Wikipedia, the free encyclopedia
Prifddinas de facto gwladwriaeth Israel yw Caersalem neu Jeriwsalem (Jerusalem yn Saesneg; Yerushaláyim, ירושלים yn Hebraeg Diweddar, ירושלם yn Hebraeg clasurol; al-Quds, القدس, yn Arabeg). Mae hi'n dref hynafol o bwysigrwydd crefyddol arbennig yn hanes Iddewiaeth, Cristnogaeth ac Islam. Er bod yr Israeliaid yn hawlio Caerselem yn brifddinas Israel, yn ôl y Cenhedloedd Unedig mae'n ddinas a feddianwyd gan yr Israeliaid yn anghyfreithlon;[1][2][3][4] mae Awdurdod Cenedlaethol Palesteina hefyd yn ei hawlio fel prifddinas. Mewn canlyniad nid yw'n cael ei chydnabod fel prifddinas Israel gan y mwyafrif llethol o wledydd y byd (gweler isod). Mae ei phoblogaeth oddeutu 936,425 (2019)[5].
Math | dinas |
---|---|
Enwyd ar ôl | Shalim |
Poblogaeth | 936,425 |
Sefydlwyd |
|
Cylchfa amser | UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Jeriwsalem Fwyaf |
Sir | Bwrdeistref Jeriwsalem, Llywodraethiaeth Jeriwsalem |
Gwlad | Israel |
Arwynebedd | 125.42 km² |
Uwch y môr | 754 metr |
Yn ffinio gyda | Ramat Rachel, Mevaseret Zion, Beit Zayit, Hizma, Al-Ram, Ramallah, Even Sapir, Beit Yala, Abu Dis, Ora, Bethlehem |
Cyfesurynnau | 31.7789°N 35.2256°E |
Cod post | 91000–91999 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Bwrdeistref Jeriwsalem |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Jeriwsalem |
Mae holl adrannau llywodraeth Israel wedi'u lleoli yn Jeriwsalem, gan gynnwys y Knesset (senedd Israel), preswylfeydd y Prif Weinidog (y Beit Aghion) a'r Arlywydd (y Beit HaNassi), ac yma hefyd y mae'r Goruchaf Lys.