Clwb pêl-droed Sbaen From Wikipedia, the free encyclopedia
Clwb pêl-droed o ddinas Madrid yw Real Madrid Club de Fútbol (Cymraeg: Clwb Pêl-droed Brenhinol Madrid). Mae'r clwb yn chwarae yn La Liga, prif adran pêl-droed Sbaen.
Ffurfiwyd y clwb fel Madrid Football Club ar 6 Mawrth, 1902[1] a chaniataodd Brenin Alfonso XIII i'r clwb ddefnyddio'r rhagddodiad Real ym 1920[2].
Mae'r clwb yn chwarae eu gemau cartref yn yr Estadio Santiago Bernabéu ers 1947.
Cafodd pêl-droed ei gyflwyno ym Madrid gan fyfyrwyr yr Institución Libre de Enseñanza oedd â sawl cyn fyfyriwr o Brifysgolion Caergrawnt a Rhydychen. Ffurfiwyd Football Club Sky ym 1897 ond gadawodd grŵp o chwaraewyr, gan gynnwys y capten, Julian Palacios, glwb Sky er mwyn sefydlu clwb newydd o'r enw Madrid Football Club ym 1902[3].
Tair blynedd ar ôl ei ffurfio, llwyddodd Madrid FC i gipio'r tlws cyntaf yn eu hanes wrth drechu Athletic Bilbao yn rownd derfynol y Copa del Rey[4]. Ym 1909 roedd Madrid FC yn un o sylfaenwyr Real Federación Española de Fútbol (RFEF) (Cymraeg: Cymdeithas Bêl-droed Brenhinol Sbaen) cyn newid eu henwau i Real Madrid ym 1920 wedi i Brenin Alfonso XIII ganiatau i'r clwb ddefnyddio'r rhagddodiad Real[2].
Ym 1929, roedd Real Madrid yn un o 10 clwb gwreiddiol La Liga gan orffen yn ail i Barcelona[5] ac mae Real, ynghŷd â Barcelona ac Athletic Bilbao wedi parhau ym mhrif adran La Liga byth ers y tymor cyntaf un.
Mae Real Madrid wedi ennill 10 Cwpan Ewrop/Cynghrair y Pencampwyr UEFA, 2 Cwpan UEFA, 2 Super Cup Uefa yn ogystal â 3 Cwpan Rhyng-gyfandirol a Chwpan Clwb y Byd a cawsant eu hurddo yn Glwb y Ganrif gan FIFA yn 2000[6].
Sefydlwyd Cwpan Pencampwyr Ewrop gan UEFA ym 1955-56 gydag 16 o glybiau'n cystadlu yn y gystadleuaeth gyntaf un. Llwyddodd Real i drechu F.K. Partizan Belgrâd ac A.C. Milan cyn maeddu Stade de Reims yn y rownd derfynol ym Mharc des Princes, Paris[7] ac ennill y cyntaf o bum Cwpan Ewrop yn olynol.
Er i'r clwb ennill eu chweched Cwpan Ewrop ym 1965-66 bu rhaid disgwyl 32 mlynedd tan 1997-98 am eu seithfed tlws gyda Real hefyd yn torri eu henwau ar y tlws ym 1999-2000, 2001-02 a 2013-14.
Enw | O | I | Anrhydeddau |
---|---|---|---|
John Toshack | 1 Gorffennaf, 1989 | 19 Tachwedd, 1990 | La Liga 1989-1990 |
John Toshack | 24 Chwefror, 1999 | 17 Tachwedd, 1999 |
Enw | O | I | Anrhydeddau |
---|---|---|---|
Gareth Bale | 1 Medi, 2013 | Cynghrair y Pencampwyr UEFA 2013-14, 2016-17 Copa del Rey 2013-14, Cwpan Clwb y Byd FIFA 2014, Super Cup UEFA 2014 |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.