Pinc mynydd
rhywogaeth o adar / From Wikipedia, the free encyclopedia
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Pinc mynydd (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: pincod mynydd) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Fringilla montifringilla; yr enw Saesneg arno yw Brambling. Mae'n perthyn i deulu'r Pincod (Lladin: Fringillidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Pinc mynydd Fringilla montifringilla | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | Aves |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Fringillidae |
Genws: | Fringilla[*] |
Rhywogaeth: | Fringilla montifringilla |
Enw deuenwol | |
Fringilla montifringilla | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn F. montifringilla, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yng Ngogledd America, Asia, Ewrop ac Affrica.
Yn y gaeaf mae'n symud tua'r de a thua'r gorllewin, i dde Ewrop, gogledd Affrica, India, Tsieina a Japan.
Adeiledir y nyth mewn coeden fel rheol, mewn coedwigoedd gweddol agored, ac mae'n dodwy 4-9 wy. Tu allan i'r tymor nythu mae'n casglu'n heidiau, yn aml gyda'r Ji-binc. Hadau yw'r prif fwyd, ond mae'r cywion yn cael eu bwydo ar bryfed.
Rhaid bod yn weddol ofalus i wahaniaethu rhwng Pinc y Mynydd a'r Ji-binc. Mae gan Binc mynydd fron oren a bol gwynnach na'r Ji-binc, ac wrth hedfan mae'n dangos darn gwyn uwchgben y gynffon. Yn y tymor nythu mae gan y ceiliog ben a chefn du.
Nid yw Pinc mynydd yn nythu yng Nghymru ond mae nifer amrywiol yn gaeafu yma. Weithiau gellir gweld heidiau o gannoedd, ond fel rheol gellir gweld un neu ddau mewn haid o'r Ji-binc.