Rhywogaeth mewn perygl yw rhywogaeth o anifail neu blanhigyn, neu ffwng sy'n debygol iawn o ddifodiant (o ddiflannu) yn y dyfodol agos. Gall rhywogaethau fod mewn perygl oherwydd ffactorau megis colli cynefinoedd, potsian neu rhywogaethau ymledol yn dod i'r cynefin. Mae Rhestr Goch yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (IUCN) yn rhestru statws cadwraeth llawer o rywogaethau byd-eang, a cheir asiantaethau amrywiol eraill sy'n asesu statws rhywogaethau o fewn ardaloedd penodol. Mae gan lawer o genhedloedd gyfreithiau sy’n gwarchod rhywogaethau, er enghraifft, gwahardd hela, cyfyngu ar ddatblygu tir, neu’n creu ardaloedd gwarchodedig. Ceir llawer o ymdrechion dros gadwraeth rhywogaethau a'u hamgylchedd, megis bridio mewn mannau diogel ac adfer cynefinoedd.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
Rhywogaeth mewn perygl
Thumb
Teigr Siberia, is-rywogaeth sydd mewn perygl difrifol.
Enghraifft o'r canlynolstatws gadwraeth Edit this on Wikidata
Mathrhywogaeth dan fygythiad Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cau

Statws cadwraeth unrhyw rywogaeth yw'r tebygrwydd y gallai'r rhywogaeth honno wynebu difodiant. Y mwyaf adnabyddus o'r rhestriprif restr o ran statws cadwraeth yw Rhestr Goch yr IUCN.

Mae categoriau'r IUCN yn cynnwys:

  • Wedi ei ddifodi: dim unigolion o'r rhywogaeth ar ôl, er enghraifft y Dodo.
  • Wedi ei ddifodi yn y gwyllt: rhai unigolion ar ôl, ond dim poblogaeth naturiol yn y gwyllt.
  • Mewn perygl difrifol: siawns uchel iawn o ddifodiant yn y dyfodol agos, er enghraifft Rheinoseros Jafa.
  • Mewn perygl: siawns uchel o ddifodiant yn y dyfodol, er enghraifft y Morfil Glas, Teigr, Albatros
  • Archolladwy: siawns uchel o ddifodiant yn y tymor hir, er enghraifft y Llew, Gaur.
  • Dibynnu ar gadwraeth: er nad oes bygythiad ar hyn o bryd, mae'n ddibynnol ar raglenni cadwraeth, er enghraifft Caiman Du
  • Bron dan fygythiad: gall ddod dan fygythiad yn y dyfodol agos.
  • Dim bygythiad: dim bygythiad ar hyn o bryd.

Mae gweithgaredd dynol yn aml yn gallu peryglu rhai rhywogaethau.[1][2]

Statws cadwraeth

Mae statws cadwraeth rhywogaeth yn nodi pa mor debygol yw hi i'r rhywogaeth ddifodi. Ystyrir llawer o ffactorau wrth asesu statws rhywogaeth; ee, ystadegau megis y nifer sy'n weddill, y cynnydd neu ostyngiad cyffredinol yn y boblogaeth dros amser, cyfraddau llwyddiant bridio, neu fygythiadau hysbys. [3] Rhestr Goch yr IUCN o Rywogaethau Dan Fygythiad yw'r system rhestru a graddio statws cadwraeth mwyaf adnabyddus ledled y byd. [4]

Mae categoriau'r IUCN yn cynnwys:

  • Rhywogaethau wedi eu ddifodi: dim unigolion o'r rhywogaeth dan sylw ar ôl, er enghraifft y Dodo.
  • Rhywogaeth wedi ei ddifodi yn y gwyllt: rhai unigolion ar ôl, ond dim poblogaeth naturiol yn y gwyllt.
  • Rhywogaeth mewn perygl difrifol: siawns uchel iawn o ddifodiant yn y dyfodol agos, er enghraifft Rheinoseros Jafa.
  • Rhywogaeth mewn perygl: siawns uchel o ddifodiant yn y dyfodol, er enghraifft y Morfil Glas, Teigr, Albatros
  • Rhywogaeth archolladwy: siawns uchel o ddifodiant yn y tymor hir, er enghraifft y Llew, Gaur.
  • Rhywogaeth sy'n dibynnu ar gadwraeth: er nad oes bygythiad ar hyn o bryd, mae'n ddibynnol ar raglenni cadwraeth, er enghraifft Caiman Du
  • Rhywogaeth sydd bron dan fygythiad: gall ddod dan fygythiad yn y dyfodol agos.
  • Dim bygythiad: dim bygythiad ar hyn o bryd.

Amcangyfrifir bod dros 50% o rywogaethau’r byd mewn perygl o ddiflannu,[5] ond mae’r ffin rhwng categorïau fel rhywogaethau ‘mewn perygl’, ‘prin’, neu ‘ddifodiant lleol’ yn aml yn anodd ei diffinio, o ystyried y prinder cyffredinol o ddata ar y rhan fwyaf o'r rhywogaethau hyn. Mae hyn yn arbennig o wir yng Nghefnfor y byd lle gall rhywogaethau sydd mewn perygl nas gwelwyd ers degawdau fynd yn ddiflanedig heb i neb sylwi.[6]

Yn rhyngwladol, arwyddodd 195 o wledydd gytundeb i greu Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth a fydd yn gwarchod rhywogaethau sydd mewn perygl a rhywogaethau eraill sydd dan fygythiad.

Rhestr Goch IUCN

Thumb
Mae'r teigr Siberia yn Mewn Perygl (Saesneg: Endangered; EN). Difodwyd tri isrywogaeth o deigr eisoes.[7]
Thumb
Macaw Wagler, aderyn sydd mewn perygl difrifol

Er ei bod wedi'i labelu'n rhestr, mae Rhestr Goch yr IUCN yn system o asesu statws cadwraeth byd-eang rhywogaethau sy'n cynnwys "Diffyg Data" (DD) rhywogaeth – rhywogaethau y mae angen mwy o ddata ac asesiad ar eu cyfer cyn y gellir penderfynu ar eu sefyllfa – yn ogystal â rhywogaethau a aseswyd yn gynhwysfawr gan broses asesu rhywogaethau'r IUCN.[8]

Mae'r rhywogaethau'n cynnwys: mamaliaid, adar, amffibiaid, cycadiaid, a chwrelau. o'r rhywogaethau hynny sydd a statws "Bron Dan Fygythiad" (NT) a " Pryder Lleiaf " (LC) canfuwyd bod ganddynt boblogaethau cymharol gadarn ac iach, er y gallai'r niferoedd fod yn lleihau. Yn 2012, roedd Rhestr Goch yr IUCN yn rhestru 3,079 o rywogaethau anifeiliaid a 2,655 o rywogaethau o blanhigion fel rhai sydd mewn perygl (EN) ledled y byd.[8]

Yng Nghymru

Mae Cymru’n gartref i fioamrywiaeth dda a bywyd gwyllt amrywiol iawn, ond o ganlyniad i diwydiant ac esgeulustod, mae rhai ohonynt ar fin diflannu oni bai bod camau sydyn yn cael eu cymryd i’w gwarchod. Ymhlith y rhywogaethau prin iawn y mae:

  • Britheg frown - glöyn byw (lluosog: brithegion brown; enw gwyddonol: Fabriciana adippe)[9][10] Dyma'r glöyn byw mwyaf prin drwy wledydd Prydain. Ers ers 1970, mae'r Fritheg Frown wedi colli dros 85% o'i phoblogaeth. Mae'n anodd i'w gweld, a'u prif gynefin yng nghymru yw Cwm Alun ar ochr orllewinol Bro Morgannwg
  • Gwiwer goch - Mae'n byw ar draws rhannau helaeth o Ewrop a gogledd Asia. Yng Nghymru, mae'n wynebu’r risg o ddiflannu o ganlyniad i drosglwyddo firws marwol brech y wiwer. Mae'r wiwer goch yn gefnder i'r afanc, ac mae'n byw mewn coedwig o goed conwydd, ac yn gwledda ar gnau cyll ac egin blodau. Fe'i ceir yng nghoetiroedd Ynys Môn a Choedwig Clocaenog yn Sir Ddinbych. Erbyn 2023 roedd rhai teuluoedd o wiwerod wedi croesi'r Fenai ac i'w gweld yng ngerddi Treborth, ger Bangor.

Yn Brasil

Brasil yw un o'r gwledydd mwyaf bioamrywiol yn y byd, os nad y mwyaf. Mae'n gartref nid yn unig i goedwig yr Amazon ond hefyd i goedwig yr Iwerydd, y Cerrado sy'n debyg i safana ymhlith bioms eraill.[11] Mae masnachu bywyd gwyllt a datgoedwigo ymysg y pethau sy'n effeithio'r rhywogaethau mewn modd mwyaf negyddol ym Mrasil, ac mae hyn yn her enfawr i'r Llywodraeth. Mae gan y wlad system gyfreithiol eang i warchod yr amgylchedd, gan gynnwys ei Chyfansoddiad,[12] yn ogystal â nifer o asiantaethau llywodraeth ffederal, gwladwriaethol a lleol sydd â'r dasg o amddiffyn y ffawna a'r fflora, dirwyo unigolion neu gwmnïau sy'n gysylltiedig â throseddau amgylcheddol ac atafaelu offer a ddefnyddir yn anghyfreithlon i gymryd bywyd gwyllt.

Mae'r asiantaethau a'r cyrff anllywodraethol sy'n gweithio ym Mrasil yn cytuno bod yr adar yn cyfrif am tua 80% o'r rhywogaethau a gaiff eu dal a'u masnachu.[13]

Yn y gorffennol, mae Brasil wedi llwyddo i achub y tamarin llew-aur endemig rhag difodiant. Mae ymgyrchoedd enfawr i godi ymwybyddiaeth ymhlith pobl, gan gyrff anllywodraethol a llywodraethau, a oedd yn cynnwys argraffu darluniau o'r tamarin llew euraidd mewn papurau newydd a chylchgronnau, yn cael eu brolio am dynnu'r rhywogaeth allan o'r rhestr anifeiliaid sydd mewn perygl difrifol.[14][15]

Yn yr Unol Daleithiau

Mae data o'r Unol Daleithiau yn dangos cydberthynas rhwng poblogaethau dynol a rhywogaethau sydd dan fygythiad ac mewn perygl. Gan ddefnyddio data rhywogaethau o’r Gronfa Ddata ar y gronfa ddata Economeg a Rheoli Rhywogaethau Mewn Perygl (DEMES) a’r cyfnod y mae’r Ddeddf Rhywogaethau Mewn Perygl (ESA) wedi bod mewn bodolaeth, 1970 i 1997, crëwyd tabl sy’n awgrymu perthynas gadarnhaol rhwng gweithgaredd dynol. a pherygl rhywogaethau.[16]

Thumb
Map symbol cymesurol o gyfrif rhywogaethau dan fygythiad pob gwladwriaeth

Deddf Rhywogaethau Mewn Perygl

Thumb
"Mewn perygl" mewn perthynas â "dan fygythiad" o dan yr ESA (Endangered Species Act) yr UDA.

O dan Ddeddf Rhywogaethau Mewn Perygl 1973 yn yr Unol Daleithiau, gellir rhestru rhywogaethau fel rhai "mewn perygl" neu "dan fygythiad". Mae chwilen deigr Salt Creek (y Cicindela nevadica lincolniana) yn enghraifft o isrywogaeth sydd mewn perygl a warchodir o dan yr ESA. Mae Gwasanaeth Pysgod a Bywyd Gwyllt yr Unol Daleithiau, yn ogystal â'r Gwasanaeth Pysgodfeydd Morol Cenedlaethol yn gyfrifol am ddosbarthu a diogelu rhywogaethau sydd mewn perygl. Maent hefyd yn gyfrifol am ychwanegu rhywogaeth benodol at y rhestr.[17]

Mae rhai cyfreithiau rhywogaethau mewn perygl yn ddadleuol. Mae meysydd nodweddiadol sy’n destun dadlau yn cynnwys meini prawf ar gyfer gosod rhywogaeth ar y rhestr rhywogaethau mewn perygl a rheolau ar gyfer tynnu rhywogaeth oddi ar y rhestr unwaith y bydd ei phoblogaeth wedi gwella. A yw cyfyngiadau ar ddatblygu tir yn gyfystyr â “chymryd” tir gan y llywodraeth; y cwestiwn cysylltiedig a ddylai tirfeddianwyr preifat gael iawndal am golli defnydd o'u hardaloedd; a chael eithriadau rhesymol i gyfreithiau amddiffyn. Hefyd mae lobïo gan helwyr a diwydiannau amrywiol fel y diwydiant petrolewm, y diwydiant adeiladu, a thorri coed, wedi bod yn rhwystr wrth sefydlu deddfau rhywogaethau sydd mewn perygl. Mewn gair: mae proffid yn dod o flaen cyfoeth yr amrywiaeth.

Diddymodd gweinyddiaeth George Bush bolisi a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i swyddogion ffederal ymgynghori ag arbenigwr bywyd gwyllt cyn cymryd camau a allai niweidio rhywogaethau mewn perygl. O dan weinyddiaeth Obama, adferwyd y polisi hwn.[18]

Gall cael eichbod ar restr fel rhywogaeth mewn perygl gael effaith negyddol gan y gallai wneud rhywogaeth yn fwy dymunol i gasglwyr a potswyr.[19] Mae’n bosibl y bydd yr effaith hon yn lleihau, fel yn Tsieina lle gallai crwbanod sy’n cael eu ffermio’n fasnachol leihau rhywfaint o’r pwysau ar bobl i botsio rhywogaethau sydd mewn perygl.[20]

Yn y 2010au roedd 1,556 o rywogaethau yn UDA mewn perygl ac o dan warchodaeth y gyfraith. Nid yw'r brasamcan hwn, fodd bynnag, yn ystyried y rhywogaethau sydd dan fygythiad o ddifodiant nad ydynt wedi'u cynnwys dan warchodaeth deddfau fel y Ddeddf Rhywogaethau Mewn Perygl. Yn ôl statws cadwraeth byd-eang NatureServe, mae tua un-deg-tri y cant o fertebratau (ac eithrio pysgod morol), un-deg-saith y cant o blanhigion fasgwlaidd, a chwech i ddeunaw y cant o ffyngau yn cael eu hystyried mewn perygl.[21]: 415  Felly, i grynhoi, mae rhwng saith a deunaw y cant o anifeiliaid, ffyngau a phlanhigion hysbys yr Unol Daleithiau bron â chyrraedd difodiant.[21]: 416  Mae'r cyfanswm hwn yn sylweddol uwch na nifer y rhywogaethau a warchodir yn yr Unol Daleithiau o dan y Ddeddf Rhywogaethau Mewn Perygl.

Ers i bobl ddechrau hela, mae gor-hela a physgota wedi bod yn broblem fawr a pheryglus. O'r holl rywogaethau a ddiflannodd oherwydd ymyrraeth gan ddynolryw, mae'r dodo, y golomen deithiol, y carfil mawr, teigr Tasmania a buwch fôr Steller (Thunnus maccoyii) ymhlith rhai o'r enghreifftiau mwyaf adnabyddus; gyda'r eryr moel, yr arth <i>Ursus arctos horribilis</i>, y bual Americanaidd, y blaidd pren o'r dwyrain a'r crwban môr mewn sefyllfa bregus iawn. Dechreuodd llawer fel ffynonellau bwyd yr ystyriwyd eu bod yn angenrheidiol i oroesi ond daethant yn helfa-am-hwyl gan bobl cyfoethog. Fodd bynnag, oherwydd ymdrechion mawr i atal difodiant, mae'r eryr moel, neu Haliaeetus leucocephalus bellach o dan y categori Pryder Lleiaf ar y rhestr goch.

Un enghraifft o or-hela rhywogaeth sydd yn y cefnforoedd llde mae poblogaethau o rai morfilod wedi lleihau’n sylweddol. Mae morfilod mawr fel y morfil glas, y morfil pen bwa, y morfil asgellog llwyd, y morfil llwyd, y morfil sberm, a'r morfil cefngrwm yn rhai o'r wyth morfil sydd ar hyn o bryd yn dal i gael eu cynnwys ar y Rhestr Rhywogaethau Mewn Perygl. Cymerwyd camau i geisio lleihau nifer y morfilod a chynyddu maint y boblogaeth. Mae'r camau gweithredu yn cynnwys gwahardd morfila o bob math yn nyfroedd yr Unol Daleithiau, ffurfio cytundeb CITES sy'n amddiffyn pob morfil, ynghyd â ffurfio'r Comisiwn Morfila Rhyngwladol (IWC). Ond er bod yr holl symudiadau hyn wedi'u rhoi ar waith, mae gwledydd fel Japan yn parhau i hela morfilod a chynaeafu morfilod dan yr honiad o "ddibenion gwyddonol".[22] Mae gor-hela, newid yn yr hinsawdd a cholli cynefinoedd yn arwain at yrru rhywogaethau i'r rhestr rhywogaethau sydd mewn perygl. Gall cyfraddau difodiant gynyddu i raddau helaeth yn y dyfodol.

Yn Canada

Rhoddir sylw i rywogaethau mewn perygl trwy Ddeddf Rhywogaethau Mewn Perygl Canada. Ystyrir bod rhywogaeth dan fygythiad neu mewn perygl pan fydd ar fin diflannu. Unwaith y bernir bod rhywogaeth dan fygythiad neu dan fygythiad, mae'r Ddeddf yn mynnu bod cynllun adfer yn cael ei ddatblygu sy'n nodi sut i atal neu wrthdroi dirywiad poblogaeth y rhywogaeth.[23] O 2021 ymlaen, mae'r Pwyllgor ar Statws Bywyd Gwyllt Mewn Perygl yng Nghanada (COSEWIC) wedi asesu bod 369 o rywogaethau mewn perygl yng Nghanada.

Yn India

Mae Cronfa Fyd-eang India yn codi pryder ynghylch hirhoedledd y rhywogaethau anifeiliaid canlynol: y Panda Coch, Teigr Bengal, Dolffin Afon Ganges, a'r Eliffant Asiaidd.[24]

Llofnododd India'r Ddeddf Diogelu Bywyd Gwyllt ac ymunodd hefyd â'r Confensiwn ar y Fasnach Ryngwladol ym 1976, i atal potsio rhag niweidio ei fywyd gwyllt.[25]

Rhywogaethau ymledol

Gall cyflwyno rhywogaethau anfrodorol i ardal darfu ar yr ecosystem i'r fath raddau fel bod rhywogaethau brodorol dan fygythiad. Gellir galw cyflwyniadau o'r fath yn rhywogaethau estron neu ymledol. Yng Nghymru, mae'r rhywogaethau ymledol yn cynnwys y wiwer lwyd (Sciurus carolinensis), Jac y neidiwr (Impatiens glandulifera) a Chacwn Asiaidd (Vespa velutina).[26]

Mewn rhai achosion, mae'r rhywogaethau ymledol yn cystadlu â'r rhywogaethau brodorol am fwyd. Mewn achosion eraill, gall cydbwysedd ecolegol sefydlog gael ei gynhyrfu gan ysglyfaethu neu achosion eraill sy'n arwain at ddirywiad annisgwyl mewn rhywogaethau. Gall rhywogaethau newydd hefyd gario clefydau nad oes gan y rhywogaethau brodorol unrhyw amddiffynfa nag imiwnedd yn eu herbynt.[27]

Cadwraeth

Thumb
Mae'r ci Cuon alpinus yn un o rywogaethau sydd fwyaf dan fygythiad drwy Asia. Mae ar fin diflannu.

Amddiffyn drwy fridio mewn caethiwed

Bridio mewn caethiwed yw'r broses o fridio rhywogaethau prin neu dan fygythiad mewn amgylcheddau a reolir gan ddyn mewn mannau sydd wedi'u cyfyngu, megis gwarchodfa bywyd gwyllt, sŵ, a chyfleusterau cadwraethol eraill. Bwriad bridio caeth yw arbed rhywogaethau rhag difodi a thrwy hynny sefydlogi'r poblogaeth fel na fydd yn diflannu.[28]

Mae'r dechneg hon wedi gweithio i lawer o rywogaethau ers peth amser, ac mae'n debyg bod yr achosion hynaf y gwyddys amdanynt o baru mewn caethiwed yn cael eu priodoli i luoedd o reolwyr Ewropeaidd ac Asiaidd, er enghraifft ceirw Père David. Fodd bynnag, mae technegau bridio mewn caethiwed fel arfer yn anodd eu gweithredu ar gyfer rhywogaethau hynod symudol â rhai adar mudol (ee craeniau) a physgod (ee hilsa). Os yw'r boblogaeth bridio mewn caethiwed yn rhy fach, yna gall mewnfridio ddigwydd.

Ym 1981, creodd y Gymdeithas Sŵau ac Acwariwm (AZA) Gynllun Goroesi Rhywogaethau (SSP) i helpu i warchod rhywogaethau penodol dan fygythiad a rhai dan fygythiad trwy fridio caeth. Gyda dros 450 o Gynlluniau SSP, mae rhai rhywogaethau sydd mewn perygl yn cael yn dod dan orchwyl yr AZA gyda chynlluniau i gwmpasu nodau rheoli poblogaeth ac argymhellion ar gyfer bridio ar gyfer poblogaeth amrywiol ac iach, a grëwyd gan Grwpiau Cynghori Tacsonau. Mae'r rhaglenni hyn yn aml yn cael eu creu fel ymdrech pan fetho popeth arall. Mae Rhaglenni SSP yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn adferiad rhywogaethau, gofal milfeddygol ar gyfer achosion o glefydau bywyd gwyllt, a rhai ymdrechion cadwraeth bywyd gwyllt eraill. Mae gan Gynllun Goroesi Rhywogaethau AZA hefyd raglenni bridio a throsglwyddo, y tu mewn a'r tu allan i AZA - sŵau ac acwaria safonol. Ymhlith yr anifeiliaid sy'n rhan o raglenni SSP mae'r pandas enfawr, gorilod yr iseldir, a chondors California.[29]

Ffermio preifat

Thumb
Rhino du

Tra bod potsian pysgod ac anifeiliaid eraill yn lleihau poblogaethau anifeiliaid sydd mewn perygl yn sylweddol, mae ffermio cyfreithlon, er elw, yn gwneud y gwrthwyneb. Mae wedi cynyddu poblogaethau rhinoseros du deheuol a rhinoseros gwyn deheuol yn sylweddol. Dywedodd Richard Emslie, swyddog gwyddonol yn yr IUCN, am raglenni o’r fath, “Mae gorfodi’r gyfraith yn effeithiol wedi dod yn llawer haws nawr bod yr anifeiliaid mewn perchnogaeth breifat i raddau helaeth. Rydym wedi gallu dod â chymunedau lleol i mewn i raglenni cadwraeth. Mae cymhellion economaidd cynyddol cryf wrth wraidd edrych ar ôl rhinos yn hytrach na dim ond potsio:drwy Eco-dwristiaeth neu eu gwerthu am elw. Ceir llawer o berchnogion sy'n eu cadw'n ddiogel. Mae’r sector preifat wedi bod yn allweddol i'n gwaith.”

Mae ffermio crwbanod Tsieina a De-ddwyrain Asia – gyda llawer ohonynt mewn perygl – yn “ddealladwy”.[30] Er eu bod yn cymeradwyo disodli'n raddol crwbanod sy'n cael eu dal yn wyllt gyda chrwbanod wedi'u magu ar fferm yn y farchnad maent yn poeni bod llawer o anifeiliaid gwyllt yn cael eu dal i ddarparu stoc bridio i ffermwyr. Tyfodd canran yr unigolion a fagwyd ar ffermydd o tua 30% yn y flwyddyn 2000 i tua 70% yn 2007. Nododd yr arbenigwr cadwraeth Peter Paul van Dijk fod ffermwyr crwbanod yn aml yn credu bod anifeiliaid sy'n cael eu dal yn wyllt yn well stoc bridio. Gall ffermwyr crwbanod, felly, ddal y sbesimenau gwyllt olaf sy'n weddill o rai rhywogaethau o grwbanod sydd mewn perygl.[31]

Yn 2015, llwyddodd ymchwilwyr yn Awstralia i ddenu tiwna asgell ddeheuol (Thunnus maccoyii) i fridio mewn tanciau tan-ddaearol, gan godi’r posibilrwydd y gallai ffermio pysgod arbed y rhywogaeth rhag gorbysgota.[32]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Darllen pellach

Dolenni allanol

Wikiwand in your browser!

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.