India
gweriniaeth ffederal yn ne Asia / From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwlad yn Ne Asia yw Gweriniaeth yr India neu India (Bhārat Gaṇarājya mewn trawsgrifiad o'r Hindi). Mae hi'n ffinio â Phacistan i'r gorllewin (gan gynnwys rhanbarth Kashmir), Tibet (Tsieina), Nepal a Bhwtan i'r gogledd, a Bangladesh a Myanmar i'r dwyrain. Mae ynys Sri Lanca yn gorwedd dros y dŵr o Damil Nadu, penrhyn deheuol India. Er bod poblogaeth Tsieina'n fwy, yr India yw gwlad ddemocrataidd fwya'r byd. Mae mwy na biliwn o bobl yn byw yn y wlad a mae'n nhw'n siarad mwy nag 800 o ieithoedd. Delhi Newydd yw prifddinas y wlad.
Gweriniaeth India Bhārat Gaṇarājya | |
Arwyddair | सत्यमेव जयते |
---|---|
Math | gwlad, gwladwriaeth sofran, gweriniaeth, gwladwriaeth gyfansoddiadol, gweriniaeth ddemocrataidd, gwladwriaeth ffederal |
Enwyd ar ôl | Afon Indus |
Prifddinas | Delhi Newydd |
Poblogaeth | 1,326,093,247 |
Sefydlwyd | Fel dominiwn: 15 Awst 1947 Fel gweriniaeth: 26 Ionawr 1950 |
Anthem | Jana Gana Mana |
Pennaeth llywodraeth | Narendra Modi |
Cylchfa amser | Indian Standard Time, Asia/Kolkata |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Hindi, Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | De Asia, y Gymanwlad, South Asian Association for Regional Cooperation, Y Mudiad Amhleidiol |
Gwlad | India |
Arwynebedd | 3,287,263 km² |
Gerllaw | Môr Arabia, Bae Bengal, Cefnfor India |
Yn ffinio gyda | Nepal, Bangladesh, Bhwtan, Myanmar, Pacistan, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Indonesia, Sri Lanca |
Cyfesurynnau | 22.8°N 83°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | executive branch of the government of India |
Corff deddfwriaethol | Senedd India |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd India |
Pennaeth y wladwriaeth | Droupadi Murmu |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog India |
Pennaeth y Llywodraeth | Narendra Modi |
Crefydd/Enwad | Hindŵaeth, Islam, Cristnogaeth, Siciaeth, Bwdhaeth, Jainiaeth |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $3,150,307 million, $3,385,090 million |
Arian | rupee Indiaidd |
Canran y diwaith | 4 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 2.28 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.633 |
Mae India yn wlad anferth sy'n ymestyn o'r Himalaya yn y gogledd i draethau trofannol Cefnfor India yn y de. Yn y gorllewin mae taleithiau Rajasthan a Gujarat yn anial iawn tra bod y taleithiau dwyreiniol a'r de eithaf yn nhiriogaethau is-drofannol. Mae gan y wlad arfordir hir iawn ar Fôr Arabia yn y gorllewin, Cefnfor India yn y de a Bae Bengal yn y dwyrain.
Cyrhaeddodd bodau dynol modern (Homo sapiens) isgyfandir India o Affrica ddim hwyrach na 55,000 o flynyddoedd yn ôl.[1] O ran amrywiaeth o geneteg dynol, gellir rhoi'r rhanbarth yn ail.[2] Daeth bywyd sefydlog i'r amlwg ar yr isgyfandir ar gyrion gorllewinol basn Afon Indus tua 9,000 o flynyddoedd yn ôl, gan esblygu'n raddol i Wareiddiad Dyffryn Indus yn y drydedd mileniwm CC.[3] Erbyn 1200 CC roedd ffurf hynafol o Sansgrit, iaith Indo-Ewropeaidd, wedi tryledu i India o'r gogledd-orllewin,[4] gan ddatblygu fel iaith y Rigveda a gyfansoddwyd yn ardal y Sapta Sindhu (gwlad "y Saith Afon"), sy'n cyfateb i ardal y Punjab ym Mhacistan a gogledd-orllewin India, rhwng 1500–1000 CC. Dyma gofnodi gwawr Hindŵaeth yn India.[5] Mewnosodwyd ieithoedd Dravidian India yn y rhanbarthau gogleddol a gorllewinol.[6]
Erbyn 400 CC roedd haenu cymdeithasol a gwahardd cymdeithasol (neu y drefn gastiau) wedi dod i'r amlwg o fewn Hindŵaeth,[7] ac roedd Bwdhaeth a Jainiaeth wedi codi, gan gyhoeddi gorchmynion cymdeithasol nad oeddent yn gysylltiedig ag etifeddiaeth.[8] Arweiniodd cydgrynhoadau gwleidyddol cynnar at Ymerodraethau rhydd Maurya a Gupta ym Masn y Ganga.[9] Nodweddir y cyfnod hwn o gydweithio â chreadigrwydd eang[10][11] a hefyd gydag ymgorffori anghyffyrddadwyedd (untouchability) i fewn i'w system gredo.[12] Yn Ne India, a'r teyrnasoedd Canol, allforiwyd ieithoewdd a sgriptiau Dravidian a'r diwylliannau crefyddol i deyrnasoedd De-ddwyrain Asia.[13]
Yn y cyfnod canoloesol cynnar, gwreiddiodd Cristnogaeth, Islam, Iddewiaeth a Zoroastriaeth ar arfordiroedd de a gorllewinol India.[14] Cyrhaeddodd byddinoedd Mwslimaidd o Ganol Asia gan ysbeilio a rheoli gwastadeddau gogleddol India,[15] gan sefydlu Sultanate Delhi yn y diwedd, a throi gogledd India'n Islam ganoloesol.[16] Yn y 15g, creodd Ymerodraeth Vijayanagara ddiwylliant cyfansawdd Hindŵaidd hirhoedlog yn ne India.[17] Yn y Punjab, daeth Siciaeth i'r amlwg.[18] Arweiniodd Ymerodraeth y Mughal, ym 1526, at ddwy ganrif o heddwch cymharol,[19] gan adael gwaddol o bensaernïaeth oleuol iawn.[20]
Ehangodd Cwmni Prydeinig India'r Dwyrain drwy'r wlad gan droi India yn economi drefedigaethol, ond hefyd ei moldio'n un wlad sofran.[21] Dechreuodd rheolaeth Coron Lloegr (y Raj Prydeinig) ym 1858. Ond wedi peth amser rhoddwyd yr hawliau i Indiaid brodorol,[22] ond cyflwynwyd newidiadau technolegol, a gwreiddiodd syniadau addysg, moderniaeth a bywyd cyhoeddus.[23] Daeth mudiad cenedlaetholgar arloesol a dylanwadol i'r amlwg, a nodwyd am wrthwynebiad di-drais a daeth yn brif ffactor wrth ddod â rheolaeth Prydain i ben.[24] 'Tad y Wlad' ac un o brif arweinwyr dros India annibynnol oedd Mahatma Gandhi. Ym 1947 rhannwyd Ymerodraeth Indiaidd Prydain yn ddau ddominiwn annibynnol, Dominiwn mwyafrif Hindŵaidd India ac Arglwyddiaeth fwyafrif Mwslimaidd Pacistan. Collwyd miliynau o fywydau a gwelwyd mudo nas gwelwyd ei fath cyn hynny.[25][26]
Mae India wedi bod yn weriniaeth ffederal ers 1950, wedi'i llywodraethu drwy system seneddol ddemocrataidd. Yn wleidyddol, mae'n gymdeithas luosog, amlieithog ac aml-ethnig. Tyfodd poblogaeth India o 361 miliwn ym 1951 i 1.211 biliwn yn 2011.[27] Yn ystod yr un amser, cynyddodd ei hincwm enwol y pen o US $64 yn flynyddol i UD$ 1,498, a chynyddodd ei chyfradd llythrennedd o 16.6% i 74%. O fod yn wlad gymharol amddifad ym 1951,[28] mae India wedi tyfu'n economi fawr sy'n tyfu'n gyflym ac yn ganolbwynt ar wasanaethau technoleg gwybodaeth, gyda dosbarth canol sy'n ehangu'n sydyn.[29] Mae ganddi raglen ofod (ISRO) sydd wedi cwblhau sawl taith lwyddiannus i'r gofod.
Mae ffilmiau, cerddoriaeth a dysgeidiaeth ysbrydol Indiaidd (gw. ioga) yn chwarae rhan gynyddol mewn diwylliant byd-eang.[30] Lleihaodd ei chyfradd tlodi yn sylweddol yn 21g, ond ar gost o gynyddu anghydraddoldeb economaidd.[31] Mae gan India arfau niwclear, ac mae'n uchel mewn gwariant milwrol. Ceir anghydfod ynghylch Kashmir gyda'i chymdogion, Pacistan a Tsieina, anghydfod sydd heb ei ddatrys ers canol yr 20g. Ymhlith yr heriau economaidd-gymdeithasol y mae India yn eu hwynebu mae anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, diffyg maeth plant,[32] a lefelau cynyddol o lygredd aer.[33] Mae tir India yn fioamrywiol, gyda phedwar ardal o fioamrywiaeth.[34] Gorchuddir 21.7% o'r wlad gan goed.[35] Mae bywyd gwyllt India, yn draddodiadol yn cael ei pharchu, a'i gweld yn rhan o ddiwylliant India,[36] a cheir llawer o gynefinoedd gwarchodedig.