Cefnfor India
cefnfor / From Wikipedia, the free encyclopedia
Cefnfor India yw'r trydydd mwyaf o gefnforoedd y byd, gan orchuddio 70,560,000 km² (27,240,000 metr sgwâr) neu 19.8% meo'r dŵr ar wyneb y Ddaear.[1] Mae wedi'i ffinio gan Asia i'r gogledd, Affrica i'r gorllewin ac Awstralia i'r dwyrain. I'r de mae wedi'i ffinio â'r Cefnfor Deheuol neu Antarctica, yn dibynnu ar y diffiniad a ddefnyddir. Mae gan Gefnfor India rai moroedd ymylol neu ranbarthol mawr, fel Môr Arabia, y Môr Laccadive, Môr Somalïaidd, Bae Bengal, Môr Andaman, Môr Andaman a Môr Timor. Yma hefyd ceir Gwlff Aden, Gwlff Oman a Gwlff Persia. Ymlith y gwledydd o gwmpas Cefnfor India mae De Affrica, Mosambic, Tansanïa, Cenia a Somalia yn Affrica, Iemen, Oman, Pacistan, India, Bangladesh, Myanmar ac Indonesia yn Asia ac Awstralia.
Math | cefnfor, môr, rhanbarth |
---|---|
Enwyd ar ôl | India |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Cefnfor y Byd |
Arwynebedd | 76,174,000 km² |
Yn ffinio gyda | Kismayo, De Affrica |
Cyfesurynnau | 20°S 80°E |
Yr ynysoedd mwyaf yw Madagasgar, Comoros, Seychelles, Socotra, ynysoedd Lakshadweep, Maldives, Ynysfor Chagos, Sri Lanca, Ynysoedd Andaman, Ynysoedd Nicobar, Ynysoedd Mantawai, ac Ynysoedd Kerguélen.
Mae Cefnfor India'n cynnwys 291.9 miliwn km³ o ddŵr. Ei ddyfnder mwyaf yw dyffryn hollt Java gyda dyfnder o 7,258 medr, ond mae dyfnder cyfartolog y cefnfor yn 3,897 medr, bron i bedwar gwaith uchder yr Wyddfa.