![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/46/Libellula_depressa_picellwr_praff.jpg/640px-Libellula_depressa_picellwr_praff.jpg&w=640&q=50)
Picellwr praff
gwas y neidr / From Wikipedia, the free encyclopedia
Yn Ewrop a chanol Asia, y Picellwr praff (Lladin: Libellula depressa yw un o'r gweision neidr mwyaf cyffredin.[1] I deulu'r Libellulidae mae'n perthyn. Mae'n hawdd ei adnabod oherwydd ei abdomen glas, fflat a llydan, a phedwar clwtyn o liw ar adain y gwryw.
Ffeithiau sydyn Picellwr Praff Libellula depressa, Dosbarthiad gwyddonol ...
Picellwr Praff Libellula depressa | |
---|---|
![]() | |
Libellula depressa benywaidd yng Ngwarchodfa Natur Glascoed, Llanelwy. Llun gan Alun Williams. | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | Insecta |
Urdd: | Odonata |
Is-urdd: | Anisoptera |
Teulu: | Libellulidae |
Genws: | Libellula |
Rhywogaeth: | L. depressa |
Enw deuenwol | |
Libellula depressa Linnaeus, 1758 | |
Cau
Mae gan y gwryw a'r fenyw abdomen fflat a llydan, sy'n frown gyda chlytiau melyn i lawr yr ochrau. Mae abdomen y gwryw yn troi'n wawr o las sy'n gorchuddio'r brown ymhen amser. Hyd yr adenydd yw 70 mm.
Cynefin y L. depressa yw llynnoedd llonydd a phyllau, ble ceir digon o bryfaid i'w bwyta. Mae'n un o'r gweision neidr cyntaf i gynefino â phyllau dŵr newydd. Fe'u gwelir yn aml ymhell o ddŵr ac maent yn ymfudol.