![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/28/Wandering_Glider_Pantala_flavescens.jpg/640px-Wandering_Glider_Pantala_flavescens.jpg&w=640&q=50)
Picellwyr (teulu)
Teulu o weision neidr / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'n fwy na phosibl mai'r teulu yma o bryfaid, y Libellulidae (Cymraeg: teulu'r Picellwyr) ydy'r teulu mwyaf o weision neidr ar wyneb y Ddaear. Mae'n cynnwys yr isdeuluoedd: Corduliidae a'r Macromiidae yn ôl rhai, er bod cryn ddadlau am hyn gan naturiaethwyr. Hyd yn oed heb y ddau isdeulu hyn, mae'r teulu Libellulidae'n dal i gynnwys dros 1,000 o rywogaethau.
Libellulidae | |
---|---|
![]() | |
Pantala flavescens yn Dar es Salaam, Tansanïa. Tua 5cm. | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | Insecta |
Urdd: | Odonata |
Is-urdd: | Epiprocta |
Inffra-urdd: | Anisoptera |
Teulu: | Corduliidae |
Isdeuluoedd | |
Cordulephyinae - Corduliinae - Gomphomacromiinae - Idionychinae - Idomacromiinae - Neophyinae |
Mae eu tiriogaeth yn ymestyn dros wyneb y Ddaear, fwy neu lai, ond ceir ambell un, fel Libellula angelina sy'n hynod o brin. Mae llawer o aelodau'r teulu hwn yn lliwgar eithriadol, neu gyda bandiau ar eu hadenydd. Mae'r genws cysylltiedig, Plathemis yn cynnwys y 'cynffonau gwynion'. Mae'r genws Celithemis yn cynnwys sawl rhywogaeth hynod o liwgar, a welir yn yr Unol Daleithiau. Lliwgar hefyd ydy'r rhywogaethau yn y genera Trithemis a Zenithoptera ac ymhlith y rhai mwyaf cyffredin y mae: Tramea a Pantala.
Mae'r picellwyr canlynol i'w cael yng ngwledydd Prydain:
Delwedd | Rhywogaeth | Enw Lladin | Gwledydd |
---|---|---|---|
![]() |
Picellwr praff | Libellula depressa | ![]() ![]() |
![]() |
Picellwr prin | Libellula fulva | ![]() |
![]() |
Picellwr pedwar nod | Libellula quadrimaculata | ![]() ![]() ![]() |
![]() |
Picellwr tinddu | Orthetrum cancellatum | ![]() ![]() |
Picellwr cribog | Orthetrum coerulescens | ![]() ![]() ![]() | |
![]() |
Gwäell scarlad | Crocothemis erythraea | |
![]() |
Gwäell ddu | Sympetrum danae | ![]() ![]() ![]() |
![]() |
Gwäell asgell aur [F] | Sympetrum flaveolum | |
![]() |
Gwäell wythien goch | Sympetrum fonscolombei | ![]() |
![]() |
Gwäell rudd | Sympetrum sanguineum | ![]() ![]() |
![]() |
Gwäell gyffredin [G] | Sympetrum striolatum | ![]() ![]() ![]() |
![]() |
Gwäell yr ucheldir [G] | Sympetrum nigrescens | ![]() |
![]() |
Gwäell grwydrol | Sympetrum vulgatum | |
![]() |
Gwäell resog | Sympetrum pedemontanum | |
![]() |
Picellwr wynebwyn | Leucorrhinia dubia | ![]() ![]() ![]() |
![]() |
Picellwr wynebwyn mawr [H] | Leucorrhinia pectoralis | |
![]() |
Y gleider crwydrol [I] [J] | Pantala flavescens |