Gwäell ddu
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwas neidr o deulu'r Libellulidae ('Y Picellwyr') yw'r Gwäell ddu (Lladin: Sympetrum danae; Saesneg: black darter; lluosog: gweyll du). Dyma'r teulu mwyaf o weision neidr drwy'r byd, gyda dros 1,000 o rywogaethau gwahanol. Mae i'w ganfod yn Ewrop, Asia a Gogledd America - ac yng ngwledydd Prydain. Dyma'r gwas neidr lleiaf yng ngwledydd Prydain, gan fesur 30 mm (1.2 in).
Sympetrum danae | |
---|---|
S. danae gwryw | |
![]() | |
Female S. danae | |
Statws cadwraeth | |
Heb ei werthuso (IUCN 3.1) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | Insecta |
Urdd: | Odonata |
Is-urdd: | Anisoptera |
Teulu: | Libellulidae |
Genws: | Sympetrum |
Rhywogaeth: | S. danae |
Enw deuenwol | |
Sympetrum danae (Sulzer, 1776) | |
Mae hyd ei adenydd yn 34mm rhwng Mehefin a Medi ac mae'r oedolyn i'w weld yn hedfan ger llwyni, coed, llysdyfiant a phlanhigion eraill ar lanau llynnoedd llonydd a phyllau dŵr.
Mae aelodau'r genws Sympetrum yn cael eu hadnabod yn y Gymraeg fel 'gweyll', sef darn hir miniog a ddefnyddir i weu gwlân. Yng Nghanada a'r UDA cant eu hadnabod fel y 'meadowhawks' ac yn Lloegr fel 'darters'.