![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/54/Orthetrum_cancellatum_svk.jpg/640px-Orthetrum_cancellatum_svk.jpg&w=640&q=50)
Picellwr tinddu
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwas neidr o deulu'r Libellulidae ('Y Picellwyr') yw'r Picellwr tinddu (Lladin: Orthetrum cancellatum; lluosog: picellwyr tinddu). Dyma'r teulu mwyaf o weision neidr drwy'r byd, gyda dros 1,000 o rywogaethau gwahanol. Mae i'w ganfod yn Asia (mor bell â Kashmir a Mongolia) ac Ewrop - gan gynnwys rhannau o wledydd Prydain ar wahân i'r Alban a gwledydd Sagndinafaidd. Ceir y cofnod cyntaf ohono yng ngwledydd Prydain yn Essex yn 1934.
Ffeithiau sydyn Orthetrum cancellatum, Dosbarthiad gwyddonol ...
Orthetrum cancellatum | |
---|---|
![]() | |
![]() | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | Insecta |
Urdd: | Odonata |
Is-urdd: | Anisoptera |
Teulu: | Libellulidae |
Genws: | Orthetrum |
Rhywogaeth: | O. cancellatum |
Enw deuenwol | |
Orthetrum cancellatum (Linnaeus, 1758) | |
Cau
Mae gan yr oedolyn abdomen glas gyda'r pen ôl yn ddu ac adenydd tryloyw. Melyn yw lliw'r fenyw, gyda streipiau duon. Mae hyd adenydd O. cancellatum yn 49mm a gwelir ef ar ei adain rhwng Mai ac Awst fel arfer ger llwyni o goed, llysdyfiant a phlanhigion eraill ar lanau llynnoedd llonydd a phyllau dŵr.
- gwryw ifanc
- oedolyn gwryw
- benyw ifanc
- oedolyn benywaidd
- benyw