Pentywyn
pentref yn Sir Gaerfyrddin / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Pentywyn[1] (Saesneg: Pendine).[2] Saif ger y môr i'r de-orllewin o Sanclêr, a heb fod ymhell o'r ffin a Sir Benfro.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.7472°N 4.5639°W |
Cod SYG | W04000552 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Samuel Kurtz (Ceidwadwyr) |
AS/au | Simon Hart (Ceidwadwr) |
Mae dwy ran i'r pentref; yr hen bentref ar fryn o gwmpas yr eglwys a'r tai o gwmpas yr harbwr, sydd wedi tyfu'n ganolfan ymwelwyr ar raddfa fechan. Ar un adeg roedd Traeth Pentywyn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ymgeisiau i dorri record cyflymdra ar dir y byd. Rhwng 1924 a 1927 torrwyd y record bum gwaith yma gan Malcolm Campbell a'r Cymro J. G. Parry-Thomas. Lladdwyd Parry-Thomas yma yn 1927 wrth geisio torri'r record eto yn ei gar Babs. Claddwyd Babs yn y tywod ar ôl y ddamwain, ac wedi iddo gael ei adfer mae yn awr i'w weld yn yr amgueddfa yn y pentref.
Ers 2004, ni chaniateir ceir ar y traeth. Ond yn 2010 caniateir ceir i barcio ar y traeth yn ystod gwyliau ysgol ac ar benwythnosau. Mae nawr yn costio £3 i barcio car ar y traeth.[3]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[4] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[5]