Pennon
pentrefan ym Mro Morgannwg / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan ym mhlwyf Llancarfan, ger Llancarfan ym Mro Morgannwg, De Cymru, yw Pennon (gwelir y ffurf Pen-onn weithiau, ond nid coed onn sydd yn yr elfen olaf). Mae'n bosibl mai cyfeiriad at fam Dei (Non) yw elfen olaf yr enw. Gorwedd rhwng Llancarfan i'r gogledd a'r Rhws i'r de, tua 4 milltir i'r gogledd-orllewin o'r Barri.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Math | pentrefan ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Bro Morgannwg ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.416091°N 3.362663°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Jane Hutt (Llafur) |
AS/au | Alun Cairns (Ceidwadwr) |
![]() | |
Cau
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Alun Cairns (Ceidwadwr).[2]
Ganwyd yr hynafiaethydd, y bardd a'r ffugiwr llenyddol Iolo Morganwg (Edward Williams) yn y pentref yng ngwanwyn 1747 (1746 yn ôl yr hen galendr), ond symudodd ei rieni i fyw yn Nhrefflemin o fewn ychydig o flynyddoedd ar ôl hynny (mae'r union ddyddiad yn ansicr).