From Wikipedia, the free encyclopedia
Casgliad o 11.5 miliwn o ddogfennau cyfrinachol sy'n cynnwys gwbodaeth manwl am dros 214,000 o gwmniau hafan treth yw papurau Panama. Cofrestrwyd y cwmniau gan gwmni gwasanaethau Mossack Fonseca, o Banama, ac roedd y manylion yn cynnwys enwau cyfranddalwyr a chyfarwyddwyr y cwmniau.
Datguddiodd y papurau sut mae pobl gyfoethog yn 'cuddio' arian rhag y cyhoedd. Pan gyhoeddwyd y papurau ar y we, roedd pum pennaeth gwladwriaeth yn cael ei enwi, sef yr Ariannin, Gwlad yr Iâ, Sawdi Arabia, Wcrain a'r Yr Emiradau Arabaidd Unedig yn ogystal â swyddogion llywodraethau gwledydd eraill, perthnasau a chyfeillion agos i bennaethiaid dros 40 o wledydd eraill. Roedd dros hanner y cwmniau a enwyd ar y rhestr wedi'u cartrefu ar Ynysoedd y Wyryf (British Virgin Islands) ac roedd mwy o fanciau, swyddfeydd cyfreithwyr a'r 'dyn canol' yn gysylltiedig gyda Hong Kong nac unman arall.[1]
Er nad yw'r defnydd o fusnesau alltraeth ddim yn anghyfreithiol cyhoeddodd rhai ymchwilwyr fod rhai o'r cregyn-gwmniau o bosib wedi cael eu defnyddio i bwrpas anghyfreithiol, gan gynnwys twyll ariannol, gwyngalchu arian, cyffuriau ac osgoi treth.[2]
Rhyddhaodd canwr cloch dienw, y dogfennau i bapur newydd Almaenig (Süddeutsche Zeitung), dan lysenw "John Doe" bob yn swp gan ddechrau ar y gwaith o'u rhyddhau yn nechrau 2015.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.