![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/ab/Fossil_hominids.jpg/640px-Fossil_hominids.jpg&w=640&q=50)
Paleoanthropoleg
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Paleoanthropoleg (Saesneg: Paleoanthropology; o'r Hen Roeg: παλαιός (palaeos) "hen, hynafol", ἄνθρωπος (anthrōpos) "dyn, dynol" a'r ôl-ddodiad λογία (logia) "astudiaeth"), yn is-ddisgyblaeth (ac yn gyfuniad) o Paleontoleg ac anthropoleg ffisegol, ac yn astudiaeth o sut y ffurfiodd a sut y datblygodd nodweddion dynol. Mae'r maes yn cynnwys ail-greu llinell esblygiad y teulu Hominidae a'r berthynas rhyngddynt drwy astudio ffosiliau megis hen esgyrn, ysgerbydau, olion traed a thystiolaeth debyg o'r Hominidae: cartrefi, arteffactau, offer-llaw carreg ayb.[1][2][3]
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/ab/Fossil_hominids.jpg/640px-Fossil_hominids.jpg)
Fel y mae technoleg yn datblygu, mae geneteg yn dod yn bwysicach oddi fewn i'r maes hwn, yn enwedig i gymharu strwythurau DNA, ac fel arf ymchwil i berthynas y gwahanol rywogaethau a genera.