pentref a chymuned yn Sir Benfro From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Nanhyfer[1] neu Nyfer (Saesneg: Nevern). Saif yng ngogledd-ddwyrain y sir gerllaw Afon Nyfer a bryniau Preseli.
Math | cymuned, pentrefan |
---|---|
Poblogaeth | 848 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.0247°N 4.7956°W |
Cod SYG | W04000454 |
Cod OS | SN082400 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Paul Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Stephen Crabb (Ceidwadwr) |
Mae'r eglwys wedi ei chysegru i Sant Brynach; a chredir bod yr eglwys bresennol, sy'n dyddio o'r cyfnod Normanaidd ond wedi ei hail-adeiladu'n helaeth, ar safle clas Brynach yn y 6g. Yn y fynwent mae Croes Geltaidd yn dyddio o'r 10g neu ddechrau'r 11g. Gerllaw mae carreg gyda'r arysgrif Ladin "VITALIANI EMERTO" ac mewn Ogam "vitaliani". Yn yr eglwys mae maen arall gyda'r arysgrif "MAGLOCUNI FILI CLUTORI" mewn Lladin a "maglicunas maqi clutar.." mewn Ogam. Credir bod y garreg yma yn dyddio o'r 5ed neu'r 6g. Roedd yr hynafiaethydd George Owen yn frodor o Nanhyfer, ac mae wedi ei gladdu yma.
Rhyw 150 medr i'r gogledd-orllewin o'r eglwys mae gweddillion Castell Nanhyfer, a adeiladwyd gan Robert fitz Martin tua 1108. Dinistriwyd y castell gan y Cymry yn 1136. Yn ddiweddarach cafodd ei fab, William fitz Martin, y castell yn ôl pan briododd ferch Rhys ap Gruffydd, ond tua 1189 gyrrodd Rhys ef ohono.
Mae cromlech Pentre Ifan rhyw ddwy filltir o'r pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Stephen Crabb (Ceidwadwr).[3]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Nanhyfer (pob oed) (865) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Nanhyfer) (417) | 49.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Nanhyfer) (498) | 57.6% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Nanhyfer) (126) | 35.6% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.