teulu o adar From Wikipedia, the free encyclopedia
Urdd o adar yw'r Musophagiformes (Cymraeg: y Twracoaid). Y Musophagidae yw'r teulu sy'n golygu "y bwytwyr banana". Yn neheudir Affrica fe'u gelwir yn louries. Mae pedwerydd bys allanol eu traed yn medru mynd i mewn neu allan o'r croen. Mae'r ail a'r trydydd bys yn pwyntio tuag at ymlaen - drwy'r amser, ac wedi uno gyda'i gilydd i greu un bys, mewn rhai rhywiogaethau. Mae gan y Musophag grib eitha mawr ar gopa'i ben, a chynffonau urddasol, hir. Mae'r grwp hwn yn nodedig am eu lliwiau llachar - coch a gwyrdd fel arfer.
Musophagiformes (Turacoiaid a'u perthnasau) Amrediad amseryddol: Oligosen - Holosen, 24–0 Miliwn o fl. CP | |
---|---|
Twraco gwyrdd, Tauraco persa yn Ne Affrica | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Musophagiformes Seebohm, 1890 |
Teulu: | Musophagidae Lesson, 1828 |
Genera | |
Is-ddosbarthiadau:
| |
Cyfystyron | |
Apopempsidae |
Yn draddodiadol cafodd y Musophagiformes eu rhoi gyda'r cogau yn urdd y Cuculiformes, ond codwyd y grwp i statws urdd gan Sibley-Ahlquist a alwyd yn Musophagiformes. Bu ymagais i'w cysylltu gyda'r hoatzin, ond bu'r ymgais yn aflwyddiannus.[1] but this was later disputed.[2] Hyd at 2016 roedd gwaith ymchwil genynnol yn cryfhau'r statws urdd.[3][4][5]
Mae'r Musophagidau'n adar o faint canolig sy'n frodorol i Affrica is-Sahara, ble maen nhw'n byw mewn coedwigoedd, cotiroedd a safanas. Adar digon gwan ydyn nhw o ran eu hedfaniad. Ffrwythau (grawnwin a pawpaw ) yw eu prif fwyd, ac yn achlysurol dail, blagur a blodau. Weithiau fe fwytant bryfaid bychan, malwod a gwlithod. Fel yr awgryma'u henwau, maen nhw'n hoff iawn o fwyta banana.
Rhestr Wicidata:
teulu | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Lowri dorwen | Corythaixoides leucogaster | |
Lowri lwyd | Corythaixoides concolor | |
Lowri wynepfoel | Corythaixoides personatus | |
Twraco Bannerman | Tauraco bannermani | |
Twraco Fischer | Tauraco fischeri | |
Twraco Hartlaub | Tauraco hartlaubi | |
Twraco Ross | Musophaga rossae | |
Twraco bochwyn | Tauraco leucotis | |
Twraco crib fioled | Tauraco porphyreolophus | |
Twraco cribgoch | Tauraco erythrolophus | |
Twraco cribog | Tauraco macrorhynchus | |
Twraco cribwyn | Tauraco leucolophus | |
Twraco fioled | Musophaga violacea | |
Twraco gwyrdd | Tauraco persa | |
Twraco llwyd y Dwyrain | Crinifer zonurus | |
Twraco llwyd y Gorllewin | Crinifer piscator | |
Twraco mawr | Corythaeola cristata | |
Twraco pigddu | Tauraco schuettii |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.