safle tacson From Wikipedia, the free encyclopedia
Rheng tacson yw genws (lluosog: genera, genysau) neu dylwyth a ddefnyddir i ddosbarthu'n wyddonol organebau byw (anifeiliaid, planhigion ayb). Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ffosiliau ac organebau a ddifodwyd o fewn bywydeg.
Yn hierarchaeth y dosbarthu, mae genws yn uwch na rhywogaeth ac yn is na theulu. O ran enwau deuol, mae genws yn ffurfio rhan gyntaf enw'r rhywogaeth e.e. mae Felis catus a Felis silvestris yn ddwy rywogaeth wahanol o fewn y genws Felis. Mae Felis, felly'n genws o fewn y teulu Felidae.
Mae'r union ddosbarthiad yn cael ei benderfynu gan dacsonomegwyr. Nid yw'r dosbarthiadau hyn wedi'u naddu mewn gwenithfaen, ac mae awdurdodau gwahanol yn aml yn nodi dosbarthiad gwahanol ar gyfer y genera. Ceir canllawiau ymarferol, fodd bynnag, er mwyn cysoni'r gwaith,[1] gan gynnwys y cysyniad y dylai unrhyw genws newydd fod yn driw i'r tri maen prawf canlynol:
O'r Lladin y daw'r gair Lua error in Modiwl:Lang at line 15: attempt to index field 'lang_name_table' (a nil value). ‘ffynhonnell; math; grŵp, cenedl’,[4] enw sy'n gytras â Lua error in Modiwl:Lang at line 15: attempt to index field 'lang_name_table' (a nil value). ‘beichiogi; geni’. Linnaeus a wnaeth y gair yn boblogaidd, a hynny yn 1753 pan gyhoeddodd Species Plantarum, ond ystyrir y botanegydd Joseph Pitton de Tournefort (1656–1708) fel sylfaenydd y cysyniad modern o genera.[5]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.