![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a4/Kyrgyz_Manaschi%252C_Karakol.jpg/640px-Kyrgyz_Manaschi%252C_Karakol.jpg&w=640&q=50)
Llenyddiaeth Girgiseg
From Wikipedia, the free encyclopedia
Y corff llenyddol a ysgrifennir yn Girgiseg, yr iaith Dyrcaidd sydd yn frodorol i'r Cirgisiaid yng Nghanolbarth Asia, yw llenyddiaeth Girgiseg. Cirgisiaid sydd yn cyfri am ryw dri chwarter o boblogaeth Cirgistan, ac felly llenyddiaeth Girgiseg ydy'r brif draddodiad yn llên Cirgistan, sydd hefyd yn cynnwys yr ieithoedd Wsbeceg a Rwseg. Cynhyrchir corff llenyddol yn yr iaith Girgiseg yn ogystal gan y Cirgisiaid yng ngorllewin Tsieina.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
![]() "Dyn yn adrodd arwrgerdd Manas ar ei gof | |
Enghraifft o'r canlynol | sub-set of literature ![]() |
---|---|
Math | llenyddiaeth ![]() |
Cau