![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/49/Llawhaden_village_-_geograph.org.uk_-_1019906.jpg/640px-Llawhaden_village_-_geograph.org.uk_-_1019906.jpg&w=640&q=50)
Llanhuadain
pentref yn Sir Benfro / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan a chymuned yn ne-ddwyrain Sir Benfro, Cymru, yw Llanhuadain[1] (Seisnigiad: Llawhaden). Fe'i lleolir hanner ffordd rhwng Hwlffordd i'r gorllewin a Hendy-gwyn i'r dwyrain.
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 688 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 2,715.59 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 51.8225°N 4.7978°W ![]() |
Cod SYG | W04000443 ![]() |
Cod OS | SN072175 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Samuel Kurtz (Ceidwadwyr) |
AS/au | Simon Hart (Ceidwadwr) |
![]() | |
Cau
Mae'r pentref yn adnabyddus yn bennaf fel safle adfeilion Castell Llanhuadain, a godwyd gan y Normaniaid. Llanhuadain oedd canolfan eglwysig a gweinyddol cwmwd Llanhuadain, un o ddau gwmwd cantref Daugleddau yn yr Oesoedd Canol.
Cipiwyd a meddianwyd y castell gan yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth a'u meibion ar ddechrau'r 1190au.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[3]
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/00/Llawhaden_Church_and_Castle_-_geograph.org.uk_-_239743.jpg/320px-Llawhaden_Church_and_Castle_-_geograph.org.uk_-_239743.jpg)