![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/c2/Llangynidr_Bridge_-_geograph.org.uk_-_93348.jpg/640px-Llangynidr_Bridge_-_geograph.org.uk_-_93348.jpg&w=640&q=50)
Llangynidr
pentref ym Mhowys, Cymru / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Llangynidr.[1] Saif y pentref ar lan ddeheuol Afon Wysg, ac mae Camlas Aberhonddu a'r Fenni gerllaw hefyd. Dyddia Pont Llangynidr dros yr afon o tua 1600. Sant o'r 6g oedd Cynidr, ac mae ei wylfabsant ar 8 Rhagfyr.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b9/Llangynidr.jpg/320px-Llangynidr.jpg)
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 1,036 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 4,947.26 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 51.86688°N 3.226358°W ![]() |
Cod SYG | W04000879 ![]() |
Cod OS | SO153191 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | James Evans (Ceidwadwyr) |
AS/au | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
![]() | |
Cau
I'r de o'r pentref mae Mynydd Llangynidr, oedd ar un adeg yn llawn o chwareli calchfaen ar gyfer diwydiannau y cymoedd ymhellach i'r de. Mae'r gymuned yn ymestyn hyd at y ffîn a Blaenau Gwent. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 1,005.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[3]