Llangybi, Sir Fynwy
pentref yn Sir Fynwy / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan a chymuned yn Sir Fynwy, Cymru, yw Llangybi, a adnabyddir hefyd fel Llangybi Fawr.[1] Saif tua hanner ffordd rhwng Casnewydd a Brynbuga.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.6658°N 2.9079°W |
Cod SYG | W04001070 |
Cod OS | ST372967 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Peter Fox (Ceidwadwyr) |
AS/au | Katherine Fookes (Llafur) |
Cau
- Erthygl am bentref yn Sir Fynwy yw hon. Gweler hefyd Llangybi (gwahaniaethu).
Mae'n un o bedwar lle yng Nghymru i gael ei sefydlu gan Sant Cybi ac yn un o dri o'r un enw. Yn ôl buchedd y sant, a aned yng Nghernyw, cafodd ei sefydlu ganddo ar ôl cyfnod o astudio yng Ngâl.
Mae plwyf Llangybi Fawr yn cynnwys pentref Llandegfedd, rhai milltiroedd i'r gorllewin.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Katherine Fookes (Llafur).[3]