![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/ee/St_David%2527s_Church%252C_Llanddew_-_geograph.org.uk_-_158364.jpg/640px-St_David%2527s_Church%252C_Llanddew_-_geograph.org.uk_-_158364.jpg&w=640&q=50)
Llan-ddew
pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Llan-ddew[1] neu Llanddew. Saif fymryn i'r gogledd o dref Aberhonddu. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 246.
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
![]() Eglwys Dewi Sant, Llan-ddew | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 232 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 916.69 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 51.9671°N 3.3763°W ![]() |
Cod SYG | W04000290 ![]() |
![]() | |
Cau
Ceir olion castell mwnt a beili yma, a adeiladwyd tua 1090 gan Roger Peyton. Roedd Llanddew yn safle clas neu fynachlog Geltaidd, ac yn ddiweddarach adeiladodd Esgob Tyddewi balas yma yn y 12g. Bu Gerallt Gymro yn byw yma pan oedd yn Archddiacon Brycheiniog. Dyddia cangell yr eglwys o'r 13g.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a8/Llanddew_Castle_-_geograph.org.uk_-_158030.jpg/320px-Llanddew_Castle_-_geograph.org.uk_-_158030.jpg)