![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/5e/Sycharth_home_of_Owain_Glyndwr%252C_Last_Prince_of_Wales_23.jpg/640px-Sycharth_home_of_Owain_Glyndwr%252C_Last_Prince_of_Wales_23.jpg&w=640&q=50)
Castell mwnt a beili
rhagflaenydd y castell carreg, a grewyd mewn dwy ran / From Wikipedia, the free encyclopedia
Castell wedi ei wneud o domen o bridd gydag amddiffynfa bren o'i gwmpas yw castell mwnt a beili (a elwir hefyd yn gastell tomen a beili). Mae'n ddull o adeiladu amddiffynfa a ddaeth yn boblogaidd yng ngwledydd Prydain yn ail hanner yr 11eg ganrif gyda dyfodiad y Normaniaid. Ceir rhai cannoedd o enghreifftiau o gestyll mwnt a beili yng Nghymru, Lloegr, de'r Alban a rhannau o Iwerddon. Maent yn arbennig o niferus ar hyd y Gororau a'r Mers, sef cadarnle'r barwniaid Normanaidd rhwng Cymru a Lloegr. Tyfodd rhai o'r caerau hyn i fod yn gestyll cerrig mawr tra arhosodd eraill yn domennydd pridd ar ôl cael eu defnyddio dros dro. Yng Nghymru mabwysiadwyd y dull newydd gan rai o dywysogion Cymru am gyfnod. Yr enw Cymraeg Canol am y math hwn o gastell oedd tomen ('tump' ar y Gororau).[1]
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | building type ![]() |
---|---|
Math | castell ![]() |
![]() |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/9/98/Sycharth2.jpg/640px-Sycharth2.jpg)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/1c/Glyndyfrdwy.jpg/640px-Glyndyfrdwy.jpg)