Licypriya Kangujam
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Licypriya Kangujam (ganwyd 2011) yn ymgyrchydd amgylcheddol o India. Hi yw un o'r ymgyrchwyr (weithiau: gweithredwyr) hinsawdd ieuengaf yn fyd-eang ac mae wedi annerch arweinwyr y byd yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2019 ( COP25 ) ym Madrid, Sbaen yn gofyn iddynt weithredu ar unwaith i atal newid hinsawdd. Trodd at ymgyrchu dros weithredu yn yr hinsawdd yn India ers 2018, i basio deddfau newydd i ffrwyno lefelau llygredd uchel India, ac i wneud llythrennedd newid hinsawdd yn orfodol mewn ysgolion.[1][2][3][4]
Licypriya Kangujam | |
---|---|
Ganwyd | 2 Hydref 2011 Imphal East district |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | amgylcheddwr, ymgyrchydd hinsawdd, disgybl ysgol |
Perthnasau | Chinglensana Singh |
Mae hi wedi cael ei hystyried yn Greta Thunberg o India, er nad yw'n hoffi'r defnydd o'r term hwn.[5]
Dechreuodd Licypriya eiriol yn erbyn newid yn yr hinsawdd yng Ngorffennaf 2018. Ar 21 Mehefin 2019, wedi'i hysbydoli gan Greta Thunberg, dechreuodd Licypriya dreulio wythnos y tu allan i Senedd-dy India yn galkw ar y Prif Weinidog Narendra Modi i basio deddf newid hinsawdd yn India . Ar 31 Awst 2019, derbyniodd Licypriya "Wobr Heddwch Plant y Byd 2019" a drosglwyddwyd gan Charles Allen, Cyfarwyddwr Partneriaethau Mynegai Heddwch Bydeang - Sefydliad Economeg a Heddwch (CAU), Awstralia mewn digwyddiad a drefnwyd gan Gynghrair Ranbarthol Meithrin Ieuenctid a'r Weinyddiaeth Chwaraeon Ieuenctid a Grymuso Cymunedol, Llywodraeth Maldives. Cafodd ei hanrhydeddu hefyd â'r teitl "Rising Star" gan bencadlys Rhwydwaith Diwrnod y Ddaear yn Washington, DC, UDA.[6][7][8]
Ar 19 Tachwedd 2019, derbyniodd " Wobr Llysgennad SDGs 2019" ym Mhrifysgol Chandigarh gan Dainik Bhaskar mewn cydweithrediad â NITI Aayog, Llywodraeth India . Derbyniodd Licypriya hefyd y "Global Child Prodigy Award 2020" ar 3 Ionawr 2020 yn New Delhi gan Raglaw Lywodraethwr Pondicherry Kiran Bedi.[9] Ar 18 Chwefror 2020 anerchodd y TEDxSBSC a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Delhi, New Delhi, India. Ar 23 Chwefror 2020 anerchodd y TEDxGateway a gynhaliwyd ym Mumbai a derbyniodd gymeradwyaeth ar-ei-sefyll am ei haraith. Bu’n annerch sgwrs TEDx am y chweched gwaith tan ei naw mlwydd oed.[10][11][12][13]