actores a chyfansoddwr a aned yn 1968 From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Kylie Ann Minogue, OBE (ganed 28 Mai 1968) yn gantores ac actores o Awstralia. Daeth yn enwog yn ystod y 1980au o ganlyniad i'r opera sebon Neighbours ac wedyn symudodd i fyd canu pop ym 1987.
Kylie Minogue | |
---|---|
Ganwyd | Kylie Ann Minogue 28 Mai 1968 Melbourne |
Label recordio | EMI, Parlophone Records, Mushroom Records, Deconstruction Records, Capitol Records, Astralwerks, Warner Music Group, Geffen Records, Festival Records, Warner Bros. Records, Bertelsmann Music Group, Warner Music Australia, PWL, Warner Records Inc., BMG Rights Management |
Dinasyddiaeth | Awstralia, y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, canwr-gyfansoddwr, actor, entrepreneur, cyfansoddwr, cynhyrchydd ffilm |
Adnabyddus am | Neighbours, I Should Be So Lucky, Locomotion / Glad to be Alive |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, pop dawns, nu-disco, electropop, cerddoriaeth electronig, art pop, cyfoes R&B, pop bubblegum |
Math o lais | soprano |
Taldra | 1.52 metr |
Pwysau | 102 pwys, 46.2 cilogram |
Partner | Olivier Martinez, Andrés Velencoso, Clément Sibony |
Gwobr/au | chevalier des Arts et des Lettres, OBE, Medal Canmlwyddiant, Gold Logie Award for Most Popular Personality on Australian Television, BRIT Award for International Female Solo Artist, BRIT Award for International Female Solo Artist, Trysor byw genedlaethol Awstraliaid, Gwobrwyon Amadeus Awstria, Swyddogion Urdd Awstralia, Urdd Awstralia, Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig |
Gwefan | https://www.kylie.com/ |
llofnod | |
Cafodd gytundeb recordiau gyda'r cyfansoddwyr a chynhyrchwyr Prydeinig Stock, Aitken & Waterman ym 1988 a chafodd nifer fawr o ganeuon llwyddiannus ledled y byd. Lleihaodd ei phoblogrwydd ar ddechrau'r 1990au gan beri iddi adael Stock, Aitken & Waterman ym 1992. O ganol tan ddiwedd y 1990au, ymbellhaodd Minogue ei hun o'i gweithiau cynharaf gan geisio sefydlu'i hun fel cyfansoddwraig a pherfformwraig annibynnol. Cafodd eu gweithiau gyhoeddusrwydd mawr ond ni lwyddodd ei recordiau i ddenu cynulleidfa sylweddol ac o ganlyniad, gwelwyd y gwerthiant isaf o recordiau yn ei gyrfa. Ail-greodd ei hun gan ad-ennill ei phoblogrwydd yn y flwyddyn 2000 gan ddod yn adnabyddus am ei fideos cerddorol cywrain a'i pherfformiadau byw drudfawr.
Yn Awstralia ac Ewrop, ystyrir Minogue fel un o enwogion a symbolau rhywiol mwyaf adnabyddus ei chenhedlaeth. Wedi iddi gael ei diystyru yn gynnar iawn yn ei gyrfa gerddorol gan nifer o feirniaid yn Awstralia, mae bellach yn cael ei chydnabod am ei llwyddiannau niferus. Dychwelodd Minogue i recordio a pherfformio yn hwyrach yn y 2000au wedi cyfnod o salwch, a derbyniodd OBE yn y flwyddyn 2008 am ei gwasanaeth i gerddoriaeth. Mae Minogue wedi gwerthu dros 60 miliwn o recordiau.[1]
Ganwyd Kylie Minogue ym Melbourne, Awstralia, yn blentyn cyntaf i Ron Minogue, cyfrifydd o dras Wyddelig [2], a Carol Jones, cyn-ddawnswraig o Maesteg, De Cymru.[3] Mae ei chwaer Dannii hefyd yn gantores bop ,[4] ac mae ei brawd, Brendan, yn gweithio fel dyn camera yn Awstralia.[5]
Dechreuodd y chwiorydd Minogue eu gyrfau pan yn blant ar deledu yn Awstralia, a phan oedd yn ddeuddeg oed, ymddangosodd Kylie mewn operau sebon fel The Sullivans a Skyways, cyn iddi gael ei chastio fel un o'r prif gymeriadau yn The Henderson Kids.[6] Canodd yn gyhoeddus am y tro cyntaf ym 1983 ar raglen talent cerddorol wythnosol o'r enw Young Talent Time, lle arferai Dannii berfformio'n rheolaidd. Roedd llwyddiant Dannii ar y rhaglen wedi tynnu oddi ar doniau actio Kylie, nes i Kylie dderbyn rhan yn yr opera sebon Neighbours ym 1986.
Yn yr opera sebon, chwaraeodd Minogue ran Charlene Mitchell, mecanic mewn garej..[7] Pan yn sôn amdani, dywedodd bapur newydd The Guardian "Her appeal at first lay in her unapologetic ordinariness... She played an oil-smudged mechanic with no desire to better herself. Charlene was happy to spend her life grappling with the intestines of greasy cars" [8]. Gwelwyd llinynnau stori rhamantus hefyd rhwng cymeriad Charlene a chymeriad Scott Robinson, a chwaraewyd gan Jason Donovan. Yn yr opera sebon, priododd y ddau gymeriad mewn rhaglen a ddenodd cynulleidfa o 20 miliwn o wylwyr.[9]
Amlygwyd ei phoblogrwydd yn Awstralia pan enillodd bedwar Wobr Logie mewn un digwyddiad, gan gynnwys y "Logie Euraidd" fel y "Perfformwraig Teledu Mwyaf Poblogaidd" a gafodd ei benderfynu gan bleidlais gyhoeddus.[10]
Stock, Aitken & Waterman: 1987–1992
Yn ystod cyngerdd gan aelodau o gast Neighbours i godi arian i Glwb Pêl-droed Fitzroy, perfformiodd Minogue "The Loco-motion" a chafodd gytundeb recordiau gyda Mushroom Records ym 1987.[11]
Pan gafodd ei ail-ryddhau fel sengl (wedi ei ail-enwi'n "Locomotion"), treuliodd y sengl saith wythnos yn rhif un y siart yn Awstralia a dyma oedd y sengl a werthodd fwyaf yn Awstralia yn y 1980au.[12] O ganlyniad i lwyddiant y sengl, teithiodd Minogue i Lundain gyda cyfarwyddwr Mushroom Records, Gary Ashley er mwyn gweithio gyda Stock, Aitken & Waterman. Ychydig a wyddai Stock, Aitken & Waterman am Kylie Minogue ac roeddent wedi anghofio ei bod yn dod i Lundain i ymweld â nhw; o ganlyniad ysgrifennodd y triawd "I Should Be So Lucky" tra'r oedd Mingoue yn aros tu allan i'r stiwdio.[13] Cyrhaeddodd y gân rif un yn y siart Brydeinig ac yn Awstralia ac bu'n llwyddiannus mewn nifer o wledydd eraill hefyd. Roedd ei halbwm cyntaf "Kylie" yn gasgliad o ganeuon pop wedi cyrraedd rhif dau yn y siart albymau Prydeinig, cyn mynd i rif un gan aros yn y siart am dros flwyddyn.[14] Gwerthodd dros saith miliwn o gopïau ledled y byd gyda'r rhan fwyaf o gopïau'n cael eu gwerthu yn Ewrop ac Asia. Yn yr Unol Daleithiau a Chanada, nid oedd gwerthiant yr albwm mor uchel er i'r ail-recordiad o "The Loco-motion" gyrraedd rhif tri yn siart U. S. Billboard Hot 100 a rhif un yn Siart Senglau Canada. ,[15] Cyrhaeddodd "It's No Secret" (a ryddhawyd yn yr Unol Daleithiau yn unig) rif trideg saith ar ddechrau 1989.[16] Yn Siapan roedd y sengl "Turn It Into Love" wedi cyrraedd rhif un ar y Siart Siapaneaidd Rhyngwladol, lle arhosodd am ddeng wythnos. Tua diwedd 1988, gadawodd Minogue Neighbours er mwyn canolbwyntio ar ei gyrfa gerddorol. Dywedodd Jason Donovan amdani "When viewers watched her on screen they no longer saw Charlene the local mechanic, they saw Kylie the pop star" [4].
Roedd deuawd Minogue gyda Donovan "Especially for You" yn llwyddiant ysgubol yn y Deyrnas Unedig ar ddechrau 1989. "Especially for You" oedd sengl gyntaf Minogue i werthu dros filiwn o gopïau yn y D. U. (yr ail oedd "Can't Get You Out of My Head"). Ysgrifennodd y beirniad Kevin Killian fod y gân yn "Majestically awful... Makes the Diana Ross, Lionel Richie "Endless Love" sound like Mahler"[17]. Roedd ei hail albwm "Enjoy Yourself" (1989) yn llwyddiant yn y Deyrnas Unedig, Ewrop, Asia ac Awstralia ac yn cynnwys nifer o'i chaneuon mwyaf llwyddiannus (gan gynnwys "Hand on Your Heart" a gyrhaeddodd rhif un yn y siart Brydeinig. Serch hynny, bu'r albwm yn aflwyddiannus yng Ngogledd America a gollyngwyd Minogue gan ei chwmni recordiau Americanaidd Geffen Records.[18] Dechreuodd Minogue ar ei thaith gyntaf o gyngherddau, Taith "Enjoy Yourself", yn y Deyrnas Unedig, Ewrop, Asia ac Awstralia. Roedd "Rhythm of Love" (1990) wedi arddangos math mwy soffistigedig o gerddoriaeth pop-ddawns a oedd yn apelio at gynulledifa hŷn a dynododd hyn yr arwyddion cyntaf fod Minogue yn awyddus i wrthryfela yn erbyn ei thîm cynhyrchu a'i delwedd fel "y ferch-drws-nesaf". Yn benderfynol o gael ei derbyn gan gynulleidfa aeddfetach, cymerodd Minogue fwy o reolaeth o'i fideos cerddorol, gan ddechrau gyda "Better the Devil You Know" lle cyflwynodd ei hun fel oedolyn a oedd yn ymwybodol o'i rhywioldeb. Cyfaddefodd Pete Waterman yn ddiweddarach fod y gân hon yn garreg filltir yn ei gyrfa a bod y gân wedi ei hail-greu fel "The hottest, hippest dance act on the scene and nobody could knock it as it was the best dance record around at the time"[4].
Gwerthodd y senglau o Rhythm of Love yn dda yn Ewrop ac Awstralia ac roeddent yn boblogaidd mewn clybiau nos lle dechreuodd Minogue gael ei hystyried yn fwy ffasiynol gyda'r cynulleidfaoedd hŷn roedd wedi bod yn targeu. Pan gyrhaeddodd "Shocked" deg uchaf y siart Brydeinig, Kylie oedd yr artist recordio cyntaf i gael eu 13 sengl cyntaf yn y deg uchaf.[14] Ym Mai 1990, perfformiodd Minogue ei fersiwn hi o gân enwog The Beatles Help i dorf o 25,000 mewn cyngerdd deyrnged i John Lennon ar lannau'r afon Merswy yn Lerpwl. Diolchodd Yoko Ono a Sean Lennon iddi am ei chefnogaeth i Gronfa John Lennon.".[19]
Wedi iddi recordio ei pherwerydd albwm, "Let's Get to It" (1991) roedd Minogue wedi cyflawni ei dyletswydd i'w chytundeb recordio a pherderfynodd beidio a'i ad-newyddu.[4] Mynegodd ar sawl achlysur ei bod yn teimlo nad oedd ganddi'r rhyddid creadigol o dan Stock, Aitken & Waterman ac yn hwyrach cymharodd y profiad gyda'i hamser ar Neighbours gan ddweud mai'r unig beth roedd y cwmni am iddi wneud oedd "Learn your lines... Perform your lines, no time for questions, promote the product".[20]
Deconstruction: 1993–1998
Pan ddechreuodd Minogue ei chyfnod newydd o recordio gyda Deconstruction Records, credai nifer o'r Wasg y byddai hyn yn ddechrau cyfnod newydd yn ei gyrfa, ond derbyniodd Minogue adolygiadau amrywiol. Cafwyd gwerthiant da yn Ewrop ac Awstralia (lle treuliodd y sengl "Confide in Me" bum wythnos yn rhif un.) Roedd y senglau a ddilynodd, "Put Yourself in My Place" a "Where Is the Feeling?" wedi cyrraedd yr ugain uchaf yn i Siart Brydeinig.
Roedd gan Nick Cave, artist o Awstralia ddiddordeb mewn gweithio gyda Minogue ers iddo glywed y sengl "Better the Devil You Know". Dywedodd fod y gân yn cynnwys "one of pop music's most violent and distressing lyrics" gan ychwanegu "when Kylie Minogue sings these words, there is an innocence to her that makes the horror of this chilling lyric all the more compelling".[21] Cân serch oedd "Where the Wild Roses Grow" (1995), gyda geiriau'r gân yn sôn am lofruddiaeth o safbwynt y llofruddiwr (Cave) a'r dioddefwr (Minogue). Dangosodd llwyddiant y gân y gallai Minogue gael ei derbyn tu hwnt i'r byd pop a oedd yn gyfarwydd iddi. Cafodd y gân lawer o sylw yn Ewrop, lle cyrhaeddodd y Deg Uchaf mewn sawl gwlad a chydnabyddiaeth eang yn Awstralia lle aeth y gân i rif 2 yn y siart.[14] Enillodd y gan Wobrau ARIA hefyd fel "Cân y Flwyddyn" a "Cân Bop Orau i gael ei rhyddhau".
Ar ôl perfformio gyda Cave mewn cyngherddau, adroddodd Minogue eiriau "I Should Be So Lucky" fel petai'n farddoniaeth yn "Poetry Jam" y Neuadd Albert Frenhinol yn Llundain. Awgrym Cave oedd hyn ac yn ddiweddarach cydnabyddodd Minogue fod Cave wedi datblygu ei hyder i fynegi'i hun fel artist, gan ddweud: "He taught me to never veer too far from who I am, but to go further, try different things, and never lose sight of myself at the core. For me, the hard part was unleashing the core of myself and being totally truthful in my music".[22]
Roedd Impossible Princess (a enwyd ar ôl detholiad o gerddi gan Billy Childish) yn cynnwys Minogue yn cyd-weithio â cherddorion fel James Deab Bradfield a Sean Moore o'r Manic Street Preachers. I raddau helaeth, albwm ddawns ydoedd ac nid oedd y sengl gyntaf "Some Kind of Bliss" yn adlewyrchiad o steil yr albwm. Cwestiynodd llawer a oedd Mingoue yn ceisio bod yn berfformwraig "indie" neu annibynnol. Dywedodd hi wrth Music Week "I have to keep telling people that this isn't an indie-guitar album. I'm not about to pick up a guitar and rock". Disgrifiodd y cylchgrawn Billboard yr albwm fel "Stunning" gan ddod i'r casgliad ei fod yn "A golden commercial opportunity for a major record company with vision and energy to release it in the United States. A sharp ear will detect a kinship between Impossible Princess and Madonna's hugely successful album, Ray of Light". Yn y DU, rhoddodd Music Week feirniadaeth mwy negyddol gan ddweud "Kylie's vocals take on a stroppy edge... But not strong enough to do much".
Dyma oedd ei halbwm lleiaf llwyddiannus ei gyrfa o ran gwerthiant yn y Deyrnas Unedig (lle cafodd enw'r albwm ei newid ar frys yn sgîl marwolaeth Diana, Tywysoges Cymru) ond dyma oedd ei halbwm mwyaf llwyddiannus o ran gwerthiant yn Awstralia ers ei halbwm cyntaf. Crëwyd sioe fyw i gyd-fynd â'r albwm. Pan yn adolygu'r sioe, soniodd The Times am allu Minogue i "Mask her thin, often nondescript voice with musical diversity and brittle charisma and genuinely great pop songs by any standard", ac roedd albwm byw a recordiwyd yn ystod y daith, o'r enw Intimate and Live, yn llwyddiannus yn Australia.
Parhaodd ei chyhoeddusrwydd a'i henwogrwydd yn Awstralia gyda nifer o berfformiadau byw, gan gynnwys Mardi Gras Lesbiaid a Hoywon Sydney ym 1998, agor Stiwdio Fox yn Sydney ym 1999 lle perfformiodd "Diamonds Are a Girl's Best Friend" a chyngerdd Nadolig yn Dili, Dwyrain Timor ar y cyd â Lluoedd Cynnal-Heddwch y Cenhedloedd Unedig.
Parlophone a chanol ei gyrfa: 1999–2005
Daeth cytundeb Minogue a Deconstruction Records i ben ac wedi iddi wneud deuawd gyda'r Pet Shop Boys ar eu halbwm Nightlife, arwyddodd gytundeb gyda Parlophone yn Ebrill 1999. Cafodd artistiaid disco o'r 1970au fel "Donna Summer" a'r "Village People" ddylwanwad mawr ar ei halbwm "Light Years" (2000). Roedd yr albwm yn cynnwys sawl cân gan Guy Chambers a Robbie Williams a oedd wedi cynnwys hiwmor yng ngeiriau'r caneuon. Ysgrifennodd y New Musical Express "Kylie's capacity for reinvention is staggering" gan grynhoi'r albwm fel "Sheer joy" a "What she does best". Cafodd yr albwm yr adolygiadau gorau o'i gyrfa hyd yn hyn a yn fuan iawn, cafodd Kylie lwyddiant yn Asia, Awstralia ac Ewrop, gan werthu dau filiwn o gopïau ledled y byd. Y sengl "Spinning Around" oedd ei rhif un cyntaf mewn deng mlynedd a chafodd y fideo a oedd yn cyd-fynd â'r gân, lle gwisgodd Kylie bâr bach iawn o hotpants euraidd, ei chwarae'n rheolaidd ar y teledu. Roedd y senglau a ryddhawyd yn ddiweddarach hefyd yn llwyddiannus, gan gynnwys "Kids", deuawd gyda Robbie Williams.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.