tref a chymuned ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ne Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref a chymuned ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw Maesteg. Mae Caerdydd 36.2 km i ffwrdd o Faesteg ac mae Llundain yn 246.2 km. Y ddinas agosaf ydy Abertawe sy'n 21.2 km i'r gorllewin. Yn 2011 roedd ei phoblogaeth yn 17,580, o'i gymharu â 17,859 yn 2001. Mae ganddi arwynebedd o 2,721 ha ac yn cwmpasu rhan uchaf Afon Llyfni. Gellir olrhain twf Maesteg i'r gwaith haearn a thunplat treflannau fel Porth-cawl, Llynfi a Llwydarth.
Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 17,580, 17,048 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Pen-y-bont ar Ogwr |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 2,720.58 ha |
Cyfesurynnau | 51.61°N 3.65°W |
Cod SYG | W04000640 |
Cod OS | SS855915 |
Cod post | CF34 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Huw Irranca-Davies (Llafur) |
AS/au y DU | Stephen Kinnock (Llafur) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Huw Irranca-Davies (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Stephen Kinnock (Llafur).[2]
Agorodd gwaith haearn ym Maesteg yn 1826 a chysylltwyd hi gyda Phorth-cawl drwy dramffordd geffylau. Yn 1837 agorwyd gwaith haearn Llynfi a gellir gweld olion y gwaith yno o hyd: adilad y chwyth-beiriant (neu fegin-beiriant), ffwrnais chwyth a rhesi tai'r gweithwyr haearn.
Yn Llwydarth, yn 1889, sefydlwyd gwaith tunplat. Cynrychiolchi Undeb Glowyr Maesteg wnaeth Vernon Hartshorn, a ddaeth yn aelod o gabinet y Blaid Lafur - y Cymro cyntaf i'w ethol i Cabinet Llafur. Rhwng y ddau ryfel; byd, daeth y Dirwasgiad Mawr - a effeithiodd yn sylweddol ar Faesteg a'r cyffiniau; gwelwyd gostyngiad yn y boblogaeth rhwng 1921 a 1931 o 24%.
Ceir Coetir Ysbryd Llynfi ar gyrion y dref sy'n ardal o goedwig ac hamdden gyda llwybrau cerdded, rhedeg a seiclo. Planwyd y coetir ar safle hen bwll glo Coegnant a Golchfa Maesteg.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Maesteg (pob oed) (17,580) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Maesteg) (1,867) | 11% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Maesteg) (16319) | 92.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Maesteg) (3,412) | 45.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.