Bardd a llenor Cymraeg oedd John Prydderch Williams (4 Tachwedd 1830 - 3 Medi 1868), a adnabyddid gan amlaf wrth ei enw barddol Rhydderch o Fôn.[1] Roedd yn frodor o Ynys Môn.
John Prydderch Williams | |
---|---|
Ffugenw | Rhydderch o Fôn |
Ganwyd | 1830 Llanddeusant |
Bu farw | 1868 Y Rhyl |
Man preswyl | Y Rhyl |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, clerc |
Cyflogwr |
Bywgraffiad
Ganwyd John Prydderch ym mhlwyf Llanddeusant, Môn ar y 4ydd o Dachwedd 1830. Cafodd addysg led dda yn ei ieuenctid, yn ôl safonau'r oes. Yn llanc ifanc, aeth yn brentis i frethynwr yn Llangefni. Symudodd oddi yno i'r Rhyl lle bu'n glerc yn y swyddfa bost.[1]
Dechreuodd lenydda yn ifanc. Yn Eisteddfod Rhuddlan yn 1850, ac yntau'n ugain oed, roedd yn gyd-fuddugol â Gwyneddfardd ar y bryddest orau i'r "Llong Ymfudol". Cafodd waith wedyn yn swyddfa'r Traethodydd yn Nhreffynnon; cyfranodd nifer o erthyglau i'r cylchgrawn hwnnw a chyhoeddiadau Cymraeg eraill. Dychwelodd i'r Rhyl i gadw siop lyfrau.[1]
Dewiswyd ef yn flaenor gyda'r Methodistiaid yn y Rhyl ac yn ysgrifennydd i Gyngor y Dref ac i'r canghennau lleol o Gymdeithas y Beiblau, y Gymdeithas Genhadol a Chymdeithas y Bywydfad. Fe'i benodwyd yn Ysgrifennydd Cyffredinol Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 1864; golygodd Gyfansoddiadau arobryn Eisteddfod y Rhyl, 1863.[1]
Bu farw ar y 3ydd o Fedi 1868, yn 37 oed, a chladdwyd ef ym mynwent y Rhyl.[1]
Llyfryddiaeth
- Rhydderch o Fôn, Cydymaith i'r Adroddwr. Cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth.
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.