hanesydd Cymreig From Wikipedia, the free encyclopedia
Hanesydd o Gymru oedd John Davies (25 Ebrill 1938 – 16 Chwefror 2015),[1] a oedd hefyd yn adnabyddus fel darlledwr. Ei lyfr enwocaf oedd Hanes Cymru (ail argraffiad 2006), sy'n cael ei ystyried gan lawer o feirniaid fel y gyfrol orau i'w chyhoeddi ar y pwnc.
Ganed John Davies yn Ysbyty Llwynypia, Rhondda Fawr yn fab i Mary (née Potter) a Daniel Davies o Heol Dumfries, Treorci.[2][3] Magwyd yn Nhreorci ond symudodd ei deulu i bentref Bwlchllan ger Llanbedr Pont Steffan pan oedd yn saith oed a felly daeth yn adnabyddus i lawer fel John Bwlch-llan neu Bwlchws. Addysgwyd ef yn ysgolion Treorci, Bwlch-llan a Thregaron, yna ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd a Choleg y Drindod, Caergrawnt. Daeth yn aelod o Adran Hanes Cymru ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ac yn Warden Neuadd Pantycelyn yno. Wedi ymddeol, symudodd i fyw i Gaerdydd. John Davies oedd ysgrifennydd cenedlaethol cyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Yn 2005 cyflwynwyd Gwobr Glyndŵr iddo yn ystod Gŵyl Machynlleth am ei gyfraniad i'r celfyddydau yng Nghymru. Bu hefyd yn olygydd cyffredinol Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig.[4]
Fe'i ddyfarnwyd yn Gymrodor gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2013 a sefydlwyd Gwobr Goffa Dr John Davies am y traethawd Hanes Cymru orau yn ei enw yn 2015.
Priododd ei wraig Janet (nee Mackenzie) yn 1966. Roedd hithau yn hanesydd ac yn frodor o Flaenau Gwent. Cawsant pedwar o blant sef Anna, Beca, Guto and Ianto.
Mewn cyfweliad gyda HTV Cymru yn Nhachwedd 1998, daeth allan fel dyn deurywiol.[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.