From Wikipedia, the free encyclopedia
Gôf aur ac argraffwr o'r Almaen oedd Johannes Gensfleisch zur Laden zum Gutenberg (c. 1400 – 3 Chwefror 1468). Dyfeisiodd ddull o argraffu gyda theip symudol tua 1450. Ei waith enwocaf yw Beibl Gutenberg.[1]
Johann Gutenberg | |
---|---|
Ganwyd | Johannes Gensfleisch zur Laden zum Gutenberg c. 1400 Mainz |
Bu farw | 1468 Mainz |
Man preswyl | Mainz |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Lân Rufeinig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dyfeisiwr, teipograffydd, engrafwr, peiriannydd, gof, eurych, mintmaster |
Tad | Friele Gensfleisch zur Laden |
Mam | Else Wirich |
Ganed Gutenberg yn ninas Mainz, yn fab ieuengaf marsiandiwr o uchel dras o'r enw Friele Gensfleisch zur Laden, a'i ail wraig Else Wyrich. Mae cofnod ei fod yn byw yn Strasbourg yn 1434, efallai'n gweithio fel gôf aur. Erbyn 1448, roedd wedi dychwelyd i Mainz, ac erbyn 1450 roedd wedi argraffu cerdd Almaeneg, hyd y gwyddys y gwaith cyntaf i'w agraffu ganddo. Argraffodd ei Feibl enwog yn 1455, gan gynhyrchu tua 180 copi. Cafodd ei alltudio o Mainz yn 1462, a symudodd i Eltville. Bu farw yn 1468, a chladdwyd ef yn eglwys Ffransiscaidd Mainz.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.