From Wikipedia, the free encyclopedia
Ysgrifwr a nofelydd Awstriaidd yn yr iaith Almaeneg oedd Jean Améry (Hanns Chaim Mayer; 31 Hydref 1912 – 17 Hydref 1978) a wnâi dynnu ar ei brofiadau o'r Holocost yn ei waith.
Jean Améry | |
---|---|
Darluniad o Jean Améry o 1951.. | |
Ganwyd | Hans Chaim Mayer 31 Hydref 1912 Fienna |
Bu farw | 17 Hydref 1978 Salzburg |
Man preswyl | Fienna, Gwlad Belg |
Dinasyddiaeth | Awstria |
Galwedigaeth | llenor, athronydd, gwrthryfelwr milwrol |
Gwobr/au | gwobr llenyddiaeth academi y celfyddydau cainBafaria, Preis der Stadt Wien für Publizistik |
Ganed Hanns Chaim Mayer yn Fienna, Awstria-Hwngari, yn fab i dad Iddewig a mam Gatholig. Yn sgil marwolaeth ei dad yn y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd ei fagu'n Gatholig. Astudiodd athroniaeth yn Fienna. Yn sgil yr Anschluss ym 1938, ffoes i Ffrainc, ac yna i Wlad Belg. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu'n aelod o'r gwrthsafiad yn erbyn yr Almaenwyr yng Ngwlad Belg, a chafodd ei garcharu mewn gwersylloedd crynhoi yn Gurs, yn ne-orllewin Ffrainc, ac Auschwitz yng Ngwlad Pwyl. Ar ddiwedd y rhyfel, wrth i'r lluoedd Sofietaidd agosáu, cafodd ei symud i wersylloedd Buchenwald a Bergen-Belsen.
Wedi'r rhyfel, gweithiodd yn newyddiadurwr. Daeth i'r amlwg pan ddechreuodd ysgrifennu am ei brofiad yn yr Holocost yng nghanol y 1960au. Darllenodd ei ysgrifau ar y radio, ac ym 1964 cychwynnodd ar sawl taith ddarlithio trwy'r Almaen ym 1964. Mabwysiadodd y ffugenw Ffrangeg Jean, cyfeiriad at Jean-Paul Sartre, ac Améry, anagram o'i gyfenw Mayer. Bu farw yn 65 oed trwy hunanladdiad, o orddos o gyffuriau tawelu, mewn gwesty yn Salzburg.[1]
Derbyniodd wobr lenyddol oddi ar Academi Celfyddydau Cain Bafaria ym 1972, a gwobrau Fienna a Lessing ym 1977.[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.