Iran
gwlad yng ngorllewin Asia / From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwlad yng ngorllewin Asia sy'n cael ei chyfri'n rhan o'r Dwyrain Canol yw Gweriniaeth Islamaidd Iran (Persieg: جمهوری اسلامی ايران, sy'n cael ei lefaru fel [dʒomhuːɾije eslɒːmije iːɾɒn]), neu Iran. Hyd at 1935 fe'i galwyd yn Persia.[1] Y gwledydd cyfagos yw Pacistan ac Affganistan i'r dwyrain, Tyrcmenistan i'r gogledd-ddwyrain, Aserbaijan ac Armenia i'r gogledd-orllewin, a Thwrci ac Irac i'r gorllewin. Mae gan y wlad arfordir ar Fôr Caspia yn y gogledd ac ar y Gwlff a Gwlff Oman yn y de. Tehran yw prifddinas y wlad, a'r ddinas fwyaf. Ers y Chwyldro Islamaidd yn 1979 mae Iran yn Weriniaeth Islamaidd.
Gweriniaeth Islamaidd Iran جمهوری اسلامی ايران (Persieg) Jomhuri-ye Eslāmi-ye Irān | |
Arwyddair | استقلال، آزادی، جمهوری اسلامی |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, Gweriniaeth Islamaidd, gwlad |
Enwyd ar ôl | Aryan |
Prifddinas | Tehran |
Poblogaeth | 86,758,304 |
Sefydlwyd | |
Anthem | National Anthem of the Islamic Republic of Iran |
Pennaeth llywodraeth | Ebrahim Raisi |
Cylchfa amser | UTC+03:30, Cylchfa Amser Iran, Asia/Tehran |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Perseg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Dwyrain Canol, De-orllewin Asia |
Gwlad | Iran |
Arwynebedd | 1,648,195 ±1 km² |
Gerllaw | Môr Caspia, Gwlff Persia, Gwlff Oman |
Yn ffinio gyda | Affganistan, Pacistan, Twrci, Irac, Aserbaijan, Armenia, Tyrcmenistan, Nakhchivan Autonomous Republic, Sawdi Arabia, Coweit, Bahrain, Oman, Catar, Yr Emiradau Arabaidd Unedig |
Cyfesurynnau | 32°N 53°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Government of Iran |
Corff deddfwriaethol | Islamic Consultative Assembly |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Prif Arweinydd Aran |
Pennaeth y wladwriaeth | Ali Khamenei |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd Gweriniaeth Islamaidd Iran |
Pennaeth y Llywodraeth | Ebrahim Raisi |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $359,097 million, $388,544 million |
Arian | rial Iranaidd |
Cyfartaledd plant | 1.707 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.774 |
Mae Iran yn gartref i un o wareiddiadau hyna'r byd,[2][3], gan ddechrau gyda ffurfiad teyrnasoedd yr Elamite yn y bedwaredd mileniwm CC. Cafodd ei uno gyntaf gan y Mediaid yn y 7g CC, a a thyfodd i'w hanterth (yn diriogaethol) yn y 6g CC, pan sefydlodd Cyrus Fawr yr Ymerodraeth Achaemenaidd, a ddaeth yn un o'r ymerodraethau mwyaf mewn hanes a'r ymerodraeth 'superpower' gyntaf yn y byd.[4]
Syrthiodd yr ymerodraeth i Alecsander Fawr yn y 4g CC ac fe'i rhannwyd yn sawl gwladwriaeth Hellenistig. Sefydlodd gwrthryfel yn Iran Ymerodraeth Parthian yn y 3g CC, a olynwyd yn y drydedd ganrif OC gan yr Ymerodraeth Sassanaidd, pŵer mwya'r byd am y pedair canrif nesaf.[5][6] Gorchfygodd Mwslimiaid Arabaidd yr ymerodraeth yn y 7g OC, a arweiniodd at Islameiddio Iran. Wedi hynny daeth yn brif ganolfan diwylliant a dysgu Islamaidd, gyda'i chelf, llenyddiaeth, athroniaeth, a phensaernïaeth yn ymledu ar draws y byd Mwslemaidd a thu hwnt yn ystod yr Oes Aur Islamaidd. Dros y ddwy ganrif nesaf, daeth cyfres o linachoedd Mwslimaidd brodorol i'r amlwg cyn i'r Twrciaid Seljuq a'r Mongols orchfygu'r rhanbarth.
Yn y 15g, ailsefydlodd y Safavids brodorol wladwriaeth unedig Iran a hunaniaeth genedlaethol a throsi'r wlad yn Islam Shia.[7] O dan deyrnasiad Nader Shah yn y 18g, daeth Iran yn bwer mawr yn y byd unwaith eto,[8] ond erbyn y 19g arweiniodd cyfres o wrthdaro â Rwsia at golledion tiriogaethol sylweddol.[9][10] Yn gynnar yn yr 20g cafwyd Chwyldro Cyfansoddiadol Persia. Arweiniodd ymdrechion i wladoli ei gyflenwad tanwydd ffosil gan gwmnïau’r Gorllewin at coup Eingl-Americanaidd ym 1953, a arweiniodd at fwy o reolaeth unbenaethol o dan Mohammad Reza Pahlavi a dylanwad gwleidyddol cynyddol y Gorllewin.[11] Aeth ati i lansio cyfres bellgyrhaeddol o ddiwygiadau ym 1963.[12] Ar ôl Chwyldro Islamaidd Iran, sefydlwyd y Weriniaeth Islamaidd bresennol ym 1979 gan Ruhollah Khomeini, a ddaeth yn Arweinydd Goruchaf cynta'r wlad.
Ystyrir yn eang bod llywodraeth Iran yn awdurdodaidd, ac mae wedi denu beirniadaeth eang am ei chyfyngiadau a'i cham-driniaeth yn erbyn hawliau dynol a rhyddid sifil,[13][14][15][16] gan gynnwys honiadau o sawl ymateb treisgar i brotestiadau torfol, etholiadau annheg., a hawliau cyfyngedig i fenywod a phlant.
Caiff Iran ei hystyried yn bwer rhanbarthol a chanolig, ac mae ei lleoliad yn cael ei gyfri'n strategol ac yn ddaear-wleidyddol (geopolitaidd) ar gyfandir Asia. Mae'n aelod sefydlol o'r Cenhedloedd Unedig, yr ECO, yr OIC, ac OPEC. Mae gan y wlad gronfeydd wrth gefn enfawr o danwydd ffosil - gan gynnwys cyflenwad nwy naturiol ail-fwya'r byd a'r bedwaredd gronfa olew fwyaf.[17] Adlewyrchir etifeddiaeth ddiwylliannol gyfoethog y wlad yn rhannol gan ei 22 Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.[18] Mae Iran yn parhau i fod yn gymdeithas luosog sy'n cynnwys nifer o grwpiau ethnig, ieithyddol a chrefyddol, a'r mwyaf ohonyn nhw yw'r Persiaid, yr Azeris, y Cwrdiaid, y Mazandaranis a'r Lurs.[19]