From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwlad Arabaidd yng ngorllewin Asia a'r Dwyrain Canol ar arfordir Gwlff Persia yw Coweit[1] (Arabeg: الكويت). Yn swyddogol, ei henw yw "Gwladwriaeth Coweit" (Dawlat al-Kuwayt). Fe'i lleolir rhwng de-orllewin Irac a gogledd-ddwyrain Sawdi Arabia yng ngorllewin Asia, ar ben eithaf Gwlff Persia.
Gwladwriaeth Coweit دَوْلَةُ ٱلْكُوَيْت (Arabeg) (Ynganiad: Dawlat al-Kuwayt) | |
Math | gwladwriaeth sofran |
---|---|
Prifddinas | Dinas Coweit |
Poblogaeth | 4,464,000 |
Sefydlwyd | 1752 (ffurfiwyd) 19 Mehefin 1961 (Annibyniaeth oddi wrth Lloegr (y DU)) 28 Awst 1990 (Llywodraethwlad Coweit) |
Anthem | Anthem Genedlaethol Coweit |
Pennaeth llywodraeth | Sabah Al-Khalid Al-Sabah |
Cylchfa amser | UTC+03:00, Asia/Kuwait |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Arabeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Dwyrain Canol, De-orllewin Asia, Gwladwriaethau'r Gwlff |
Gwlad | Coweit |
Arwynebedd | 17,818 ±1 km² |
Yn ffinio gyda | Irac, Irac, Parth Niwtral Saudi-Koweit, Sawdi Arabia, Iran |
Cyfesurynnau | 29.16667°N 47.6°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Coweit |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Cenedlaethol Coweit |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | emir Coweit |
Pennaeth y wladwriaeth | Mishal Al-Ahmad Al-Jaber Al-Sabah |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Coweit |
Pennaeth y Llywodraeth | Sabah Al-Khalid Al-Sabah |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $136,797 million, $184,558 million |
Arian | Kuwaiti dinar |
Canran y diwaith | 3 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 2.105 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.831 |
Mae'r enw'n tarddu o'r Arabeg أكوات ākwāt, كوت kūt, sy'n golygu "Caer a godwyd ar fin y dŵr".[2] Mae ei harwynebedd yn 17,820 cilometr sgwâr (6,880milltir sgwâr) ac mae ei phoblogaeth fymryn yn llai na Chymru: 2.8 miliwn.[3]
Enwau eraill ar y rhyfel yw "Rhyfel Irac 1" neu "Operation Desert Storm" a gafodd ei ymladd gan 34 o genhedloedd yn erbyn Irac rhwng 2 Awst 1990 a 28 Chwefror 1991. Unwyd y gwledydd hyn gan y Cenhedloedd Unedig o dan arweiniad Unol Daleithiau America. Digwyddodd y rhyfel fel ymateb i ymosodiad Irac ar Goweit ar 2 Awst 1990. Ar unwaith digwyddodd dau beth: symudodd yr Unol daleithiau ei llynges arfog i'r ardal ac yn ail ymatebodd nifer o genhedloedd gyda sancsiynau economaidd yn erbyn Irac.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.