Mwynwr, masnachwr, peiriannydd, banciwr ac aelod o deulu Cymreig y Myddeltons oedd Syr Hugh Myddelton (neu weithiau Middleton), barwnig 1af (1560 – 10 Rhagfyr 1631). Roedd yn frawd i Syr Thomas Myddelton, Arglwydd Faer Llundain ym 1613.
Hugh Myddelton | |
---|---|
Ganwyd | 1560 |
Bu farw | 10 Rhagfyr 1631 |
Man preswyl | Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | peiriannydd sifil, peiriannydd, gwleidydd |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd 1604-1611, Member of the 1614 Parliament, Member of the 1621-22 Parliament, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr 1624–5, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr 1625, Member of the 1626 Parliament, Member of the 1628-29 Parliament |
Tad | Richard Myddelton |
Mam | Jane Dryhurst |
Priod | Elizabeth Olmstead, Anne Collins |
Plant | William Middleton |
Ef oedd chweched mab Richard Myddelton, llywodraethwr Castell Dinbych, a aeth i Lundain i wneud ei ffortiwn.
Gweithiodd i eurof (gof aur) a llewyrchodd yn y grefft honno, cymaint nes y penodwyd ef yn Ofaint Tlysau'r Brenin, gan Iago, brenin Lloegr (I) a'r Alban (VI). Fe'i gwnaed yn aldramon a chofiadur o dan siarter newydd tref Dinbych yn 1596 a chynrychiolodd y fwrdeistref yn y Senedd o 1603 hyd 1628, gan ddilyn ei dad fel AS Bwrdeistrefi Dinbych a bu yn y swydd honno tan 1628. Daeth yn ŵr cyfoethog iawn a gwnaeth y rhan fwyaf o'i arian fel masnachwr, fel gof aur ac fel prynwr a gwerthwr defnyddiau.
Chwiliodd yn aflwyddiannus am lo yn Nyffryn Clwyd ond bu'n fwy llwyddiannus gyda chynllun New River, cynllun a wireddwyd ganddo, er mwyn cyflenwi dŵr i Lundain.
Yn 1617 cymerodd brydles ar weithfeydd plwm ac arian y Mines Royal Company yn Sir Aberteifi er gwaethaf gwrthwynebiad cryf fe lwyddodd i raddau helaeth gyda'r gwaith — rhoes gwpanau o arian a gloddiwyd yn y sir i gorfforaethau Dinbych a Rhuthun a chwpan aur i bennaeth ei gangen ef ei hun o'r Myddeltoniaid yng Ngwaenynog. Ond gwrthododd dderbyn gwahoddiad Syr John Wynn o Wydir, yn 1625, i ymgymryd â'r gwaith o adennill tir oddi ar y môr yn y Traeth Mawr, gwaith tebyg i hwnnw yr oedd newydd orffen ceisio ei wneuthur (eithr heb lwyddo, a cholli ohono lawer o arian yn y fenter) yn Ynys Wyth gyda Syr Bevis Thelwall (gŵr arall o Sir Ddinbych). Gwnaethpwyd ef yn farwnig — 'y Barwnig Hugh Middleton o Ruthun, dinesydd ac eurof o Lundain' ar 19 Hydref 1622.
Bu farw ar 10 Rhagfyr 1631 yn ei gartref yn Cheapside, Llundain, gan adael 10 mab a 6 merch. Fe'i claddwyd yn eglwys St. Matthew Friday Street, Llundain.
New River neu'r New Cut
Mae Hugh Myddelton yn fwyaf nodedig, heddiw, am ei ran yn cyflenwi dŵr croyw o Afon Lea, ger Ware, Swydd Hertford i'r New River Head, Llundain er mwyn datrys y broblem o brinder dŵr difrifol yn y ddinas.
Daeth y prosiect i drafferthion ariannol reit ar y cychwyn, ond aeth Myddelton i'w boced ei hun hyd at ddiwedd y gwaith, gyda rhyw ychydig o gymorth gan y brenin. Cwbwlhawyd y gwaith rhwng 1608 a 1613 a chafwyd agoriad swyddogol ar 29 Medi 1613. Yn wreiddiol roedd yr afon newydd oddeutu 38 milltir (c. 60 km). Costiodd y cyfan lawer o bres i Myddelton, a dim ond rhan o'r swm honno a ad-dalwyd iddo gan y brenin.
Rhai o aelodau'r teulu
Brodyr
- William Myddelton a oedd yn Babydd ac a briododd ferch o Fflandrys[2]
- Robert Myddelton, menygwr yn Llundain a fu'n cynrychioli Weymouth yn y Senedd, lle yr oedd yn rhydd ei feirniadaeth ar bolisi masnachol Iago. Roedd yn un o rydd-freinwyr tref Dinbych yn 1615 ond ni chymerodd unrhyw ran mewn materion Cymreig.
Cefnder
- William Midleton (c. 1550 - c. 1600) neu 'Gwilym Canoldref', bardd, fforiwr a milwr.
Nai
- Richard Myddelton, rhydd-freiniwr y Grocers' Company a chyfrannwr yn y New River Company; roedd yn delio mewn crwyn yn rhannau pellaf y Môr Canoldir, ac yn gwasnaethu fel consul o dan y Levant Company tua 1651-3.
Daeth enw'r teulu o Robert Myddelton, mab Rhirid ap Dafydd o Benllyn (1393–1396), drwy ei briodas â Cecilia, aeres Syr Alexander Myddleton o Middleton, pentref bychan ym mhlwyf Llanffynhonwen (Saesneg: Chirbury), Swydd Amwythig, gan fabwysiadu cyfenw ei wraig. Saif y pentref oddeutu milltir o ffin bresennol Cymru a Lloegr. Bu gan eu disgynyddion swyddi o dan y Goron, yn Sir Ddinbych a symudodd tri o feibion Richard Myddelton (c. 1508-75) i Lundain. Ymhlith y mwayf adnabyddus o'r teulu y mae:
- Syr Thomas Myddelton (1550 - 1631), Arglwydd Faer Llundain
- Syr Hugh Myddelton (1560 - 1631), peirinnydd y New River
- William Midleton (c. 1550 - c. 1600) neu 'Gwilym Canoldref', bardd, fforiwr a milwr.
- Syr Thomas Myddelton (1586 - 1666) o'r Waun ac yna Wrecsam a Chastell Rhuthun; mab Arglwydd Faer Llundain (uchod). Arweiniodd luoedd y Senedd yn y gogledd-ddwyrain.
- Thomas Myddelton (c. 1624 - 1663) a wnaed yn farwnig yn 1660 am ei wasanaeth i'r Goron.
Daeth y llinach wrywaidd i ben yn 1796.[3]
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.