pentref yn Rhondda Cynon Taf From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Hirwaun. Saif ger Aberdâr ym mhen gogleddol Cwm Cynon.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 5,232 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Rhondda Cynon Taf |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.7386°N 3.4989°W |
Cod SYG | W04000685 |
Cod OS | SN966055 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Vikki Howells (Llafur) |
AS/au y DU | Beth Winter (Llafur) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Yn ôl y cyfrifiad diwethaf yn 2001, mae rhyw 4,000 o drigolion yn byw yn y pentref a hynny'n tyfu o hyd wrth i fwy o ystadau tai newydd gael eu codi.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Vikki Howells (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Beth Winter (Llafur).[1][2]
Mae ganddo hanes diwydiannol cryf sydd wedi'i seilio ar weithgarwch mwyngloddio a gweithfeydd haearn, sydd â'u holion i'w gweld ger canol y pentref. Wedi'i lleoli ar gyrion y pentref mae Glofa'r Tŵr, sef pwll glo dwfn olaf Cymru.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Hirwaun (pob oed) (4,990) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Hirwaun) (788) | 16.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Hirwaun) (4437) | 88.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Hirwaun) (837) | 39.6% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Agorwyd Eglwys St Lleurwg (Eglwys yng Nghymru) yn y pentref ym mis Mehefin 1858.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.