fferm wynt morol yng Nghymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Fferm wynt alltraeth wedi'i lleoli oddi ar arfordir Prestatyn, gogledd-ddwyrain Cymru yw Gwynt y Môr. Mae'n cynhyrchu 576 MW o ynni a hi yw'r bumed fwyaf yn y byd.[1]
Math | fferm wynt morol |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Gerllaw | Môr Iwerddon |
Cyfesurynnau | 53.45°N 3.58°W |
Perchnogaeth | Innogy, Stadtwerke München, UK Green Investment Bank, Siemens |
Cwmni ynni NPower Renewables sydd y tu ôl i'r cynllun ac mae'n cynhyrchu 576MW gyda 160 melin wynt neu 'dyrbein', sef digon o drydan i gyflenwi 400,000 o dai: 35% o holl dai Cymru. Roedd cyfanswm y gost o'u hadeiladu oddeutu £90 miliwn, gydag 1.2 o hynny'n mynd i Siemens am gysylltiadau ac offer trydanol.[2] Cwmniau o Gymru oedd y gweddill.
Cawsant ganiatâd i ddechrau ar y gwaith gan Adran Ynni a Newid Hinsawdd llywodraeth San Steffan ar yr ail o Ragfyr 2008. Mae'n golygu codi 250 o dyrbinau anferth o fewn 8 milltir i'r arfordir; os gweithredir y cynllun yna hon fydd yr ail fferm wynt fwyaf yn y byd.[3]
Bydd y trydan yn dod i'r lan rhwng y Rhyl a Llanddulas a'r ganolfan trwsio a chadw ym Mhorth Mostyn.
Wrth agor y gwaith ym Mehefin 2015 dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones, “Mae agor Gwynt y Môr yn gymaint o gyrhaeddiad a bydd yn parhau i sicrhau nifer o fanteision i ranbarth y Gogledd. Yn ystod y cyfnod adeiladu, roedd cwmnïau lleol ymysg y rhai a wnaeth elwa a bydd y safle yn rhoi gwaith o ansawdd da a chyfleoedd am flynyddoedd maith... Fel Llywodraeth rydym eisiau symud at ddyfodol carbon isel ac mae’r Gogledd yn benodol mewn lle da i fanteisio ar hynny.”
Cyflwynwyd y cais cynllunio cyntaf yn 2005. Cafodd y cynllun gwreiddiol ei newid rhywfaint ar 7 Awst 2007 a'i gymeradwyo gan Adran Ynni y DU yn Rhagfyr 2008. Dechreuodd y gwaith yn 2010.[4] Mae'r fferm wynt yn gorwedd ar ran o wely'r môr sydd ym meddiant Ystad y Goron, a roddodd y brydles i'r cwmni gael defnyddio'r tir.[5]
Defnyddir tyrbinau o fewn yr amrediad 3MW i 5MW gyda'r llafnau'n 165m o uchder (uchafswm), uchder mwyaf yr hwb a diametr y rotor fydd rhwng 98m a 134m. Amcangyfrifir bod y pellter rhwng y tyrbinau o gwmpas 450m i 1000m, gyda lleiafswm y bwlch sydd rhyngddynt o leiaf 350m i ganiatáu micro-leoli rhwng y tyrbinau gwynt.
Mae'r cynllun yn un dadleuol iawn, yn enwedig yn lleol. Mae'n cael ei wrthwynebu yn ei ffurf bresennol, neu yn gyfangwbl, gan Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Conwy, cynghorau tref Bae Colwyn a Llandudno a nifer o ymgyrchwyr. Mae'r penderfyniad gan Adran Ynni llywodraeth y DU i wrthod yr alwad am ymchwiliad cyhoeddus gan y cyrff hyn a gwrthwynebwyr eraill wedi codi gwrychyn nifer o bobl, yn cynnwys yr Aelod Cynulliad lleol, Gareth Jones, sydd wedi galw y penderfyniad yn "annemocrataidd" am ei fod yn groes i ddymuniad Llywodraeth Cymru a phobl leol.[3] Mae Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi datgan na ddylai San Steffan wneud penderfyniad dadleuol fel hyn yn groes i ewyllys y Cynulliad ac yn galw am ddatganoli hyn a materion tebyg i Gymru (fel sy'n bod yn yr Alban yn barod).
Trefi Llandudno a Bae Colwyn sydd ymhlith y rhai fydd yn cael eu heffeithio'n fwyaf gan y fferm wynt, sy'n weladwy o Landudno yn y gorllewin hyd ardal Y Rhyl i'r dwyrain. Mae twristiaeth yn elfen bwysig iawn yn yr economi lleol ac ofnir y bydd yn dioddef. Mae eraill yn gwrthwynebu ar seiliau amgylcheddol neu yn syml am fod y cynllun yn mynd i ddifetha'r olygfa allan i'r môr.
Yn wreiddiol, honodd y gwrthwynebwyr bod y ffigwr o "ddigon o ynni ar gyfer 680,000 o dai" yn gamarweiniol iawn hefyd, gan ei fod yn dibynnu ar amgylchiadau delfrydol sy ddim yn debyg o ddigwydd yn aml. Dadleir hefyd fod y cyflenwad pŵer o ynni gwynt yn ansefydlog ac felly bydd rhaid wrth gyflenwad cyfatebol gan bwerdai confensiynol o hyd, rhag ofn.
Ceir dwy fferm gerllaw: Fferm wynt North Hoyle, sy'n cynhyrchu 60MW o drydan a Fferm wynt gwastadeddau'r Rhyl.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.