Gwawr Euraid
From Wikipedia, the free encyclopedia
Plaid wleidyddol dde eithafol yng Ngwlad Groeg yw Cymdeithas y Bobl – Gwawr Euraid (Groeg: Λαϊκός Σύνδεσμος – Χρυσή Αυγή), a adnabyddir yn gyffredin fel Gwawr Euraid (Groeg: Χρυσή Αυγή). Esblygodd o waith Nikolaos Michaloliakos ym 1980, ac mae'r gymdeithas wleidyddol hon wedi tyfu'n sylweddol ers hynny, i ddod yn blaid wleidyddol led-adnabyddus â chefnogaeth genedlaethol iddi. Cafodd y sylw cenedlaethol cyntaf ym 1990 ac fe'i cofrestrwyd yn blaid swyddogol dair blynedd yn ddiweddarach. Caiff ei disgrifio gan sylwebwyr gwleidyddol a'r wasg fel sefydliad neo-Natsïaidd[1][2] a ffasgaidd,[3] ond mae'r gymdeithas yn gwadu hyn; er eu bod yn y gorffennol wedi defnyddio symbolau Natsïaidd a rhoi clod i arweinwyr yr Almaen Natsïaidd. Mae arweinydd y blaid wedi'i disgrifio yn agored fel un genedlaetholgar a hiliol.
Enghraifft o'r canlynol | plaid wleidyddol, mudiad anghyfreithlon |
---|---|
Idioleg | Neo-Natsïaeth, neo-fascism, ultranationalism, Euroscepticism, Megali Idea, Diffyndollaeth, Gwrth-gomiwnyddiaeth |
Dechrau/Sefydlu | 1983, Tachwedd 1993 |
Aelod o'r canlynol | European National Front |
Pencadlys | Athen |
Gwladwriaeth | Gwlad Groeg |
Gwefan | https://xrisiavgi.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Daeth y gymdeithas i sylw cyffredin yn gyntaf ym 1991, a chofrestrwyd hi fel plaid wleidyddol ym 1993. Ataliwyd y gweithgareddau gwleidyddol dros dro yn 2005, pan ddaeth yn rhan o'r Gynghrair Wladgarol (Groeg: Πατριωτική Συμμαχία). Daeth hwnnw i ben yn ei dro pan dynnodd Michaloliakos ei gefnogaeth. Ym mis Mawrth 2007, cynhaliwyd chweched gyngres Gwawr Euraid, a datganodd arweinwyr y blaid y byddent yn ail-gydio yn eu gweithgaredd gwleidyddol. Enillont eu sedd wleidyddol gyntaf yn etholiadau lleol 2010 ar 7 Tachwedd, gan ennill 5.3% o'r bleidlais ym mwrdeistref Athen, a sedd yng Nghyngor y Ddinas. Mewn rhai ardaloedd o'r ddinas, ble roedd cymunedau llu o fewnfudwyr, cododd eu canran o'r bleidlais i 20%.[4]
Ymhlith y materion sydd uchaf ar ei hagenda mae: diweithdra ac economi'r wlad a cheisio rheoli'r mewnlifiad o wledydd eraill.[5]