From Wikipedia, the free encyclopedia
Term yw Neo-Natsïaeth sy'n cyfeirio at fudiadau, pleidiau ac ideolegau asgell dde eithafol wedi'r Ail Ryfel Byd sy'n ceisio adfer Natsïaeth neu ryw amrywiad arni sy'n adleisio rhai o elfennau crai Natsïaeth fel y gred mewn goruchafiaeth hil neu genedl a/neu drefnu cymdeithas ar linellau "integraliaeth Völkisch."
Anaml mae'r bobl a mudiadau hyn yn defnyddio'r term 'Neo-Natsïaidd' i'w disgrifio eu hunain gan ffafrio yn ei le labeli fel Sosialaidd Cenedlaethol (National Socialist) neu 'Cenedlaetholgar'. Mae rhai pobl sy'n bleidiol i'r ideoleg yn osgoi termau sy'n cael eu cysylltu â Natsïaeth yn hanesyddol: mewn rhai gwledydd Ewropeaidd, fel Yr Almaen er enghraifft, ceir deddfwriaeth sy'n gwahardd datgan barn o blaid Natsïaeth a daliadau hiliol a gwrth-Semitaidd.
Yn aml mae Neo-Natsïaid yn defnyddio symbolau Indo-Ariaidd a ddefnyddid yn yr Almaen Natsïaidd, fel y Swastika, Rwnau Sig a phatrymau o'r lliwiau coch, gwyn a du. Ymddengys fod gweithgareddau Neo-Natsïaidd yn ffenomen fyd-eang, gyda mudiadau a phleidiau mewn sawl gwlad a rhwydweithiau rhyngwladol hefyd. Mae unigolion a gysylltir â gweithgareddau Neo-Natsïaidd yn cynnwys Colin Jordan, George Lincoln Rockwell, John Tyndall, Eddy Morrison, a Nick Griffin.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.