Remove ads
cymuned ym mwrdeisdref sirol Wrecsam From Wikipedia, the free encyclopedia
Cymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam yw Gwaunyterfyn. Weithiau defnyddir Parc Acton, enw'r parc mawr gerllaw, fel enw ar y gymuned hefyd. Ar un adeg roedd yn bentref ar wahan, ond erbyn hyn mae wei ei lyncu gan dref Wrecsam; saif i'r gogledd-ddwyrain o ganol y dref.
Math | cymuned, maestref |
---|---|
Poblogaeth | 13,479, 13,103 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Wrecsam |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 398.92 ha |
Yn ffinio gyda | Wrecsam |
Cyfesurynnau | 53.0607°N 2.9805°W |
Cod SYG | W04000890 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Lesley Griffiths (Llafur) |
AS/au y DU | Sarah Atherton (Ceidwadwyr) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Lesley Griffiths (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Sarah Atherton (Ceidwadwyr).[1][2]
Roedd 'Plas Acton yn perthyn i deulu Jeffreys yn y 17g; yr aelod enwocaf o'r teulu oedd y barnwr George Jeffreys. Yn 1947 rhoddodd y perchennog, William Aston, y neuadd a'r parc yn rhodd i dref Wrecsam.
Cafwyd hyd i gasgliad o bennau bwyeill a chelfi eraill ym Mharc Acton, a ystyrir y casgliad pwysicaf o gelfi o ddiwedd cyfnod cynnar Oes yr Efydd yng Nghymru. Credir eu bod yn defnyddio copr o fwynfeydd Pen y Gogarth ger Llandudno, lle roedd mwyngloddio ar raddfa fawr. Enwyd arddull y celfi ar ôl Parc Acton.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Gwaunyterfyn (pob oed) (13,479) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Gwaunyterfyn) (1,490) | 11.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Gwaunyterfyn) (9843) | 73% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Gwaunyterfyn) (2,164) | 37.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.