cymuned ym Mwrdeisdref Sirol Wrecsam From Wikipedia, the free encyclopedia
Cymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Glyntraean (Saesneg: Glyntraian). Saif yn rhan isaf Dyffryn Ceiriog, i'r de o Langollen ac mae'n cynnwys pentrefi Dolywern, Llechrydau, Llwyn-mawr a Pontfadog.
Ffurfiwyd plwyf Glyntraean pan rannwyd hen blwyf Llangollen yn dri: Llangollen Traean, Trefor Traean, a Glyn Traean. Mae ei ffin ddwyreiniol hefyd yn ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac yn dilyn Clawdd Offa. Mae'n cynnwys pentrefanau Cilcochwyn, Crogeniddon, Crogenwladus, Erwallo, Hafodgynfor, Nantygwryd, Pennant a Thalygarth.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Glyntraean (pob oed) (822) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Glyntraean) (183) | 22.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Glyntraean) (416) | 50.6% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Glyntraean) (96) | 29.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.