From Wikipedia, the free encyclopedia
Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1958 oedd y chweched tro i'r hyn sydd bellach yn cael ei adnabod fel Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Caerdydd, Cymru oedd cartref y Gemau rhwng 8–26 Gorffennaf ond cafodd cystadlaethau rhwyfo'r Gemau eu cynnal ar Lyn Padarn, Llanberis a chynhaliwyd y cystadlaethau codi pwysau yn Y Barri.
Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad aml-chwaraeon |
---|---|
Dyddiad | 1958 |
Dechreuwyd | 18 Gorffennaf 1958 |
Daeth i ben | 26 Gorffennaf 1958 |
Cyfres | Gemau'r Gymanwlad |
Lleoliad | Caerdydd |
Yn cynnwys | rowing at the 1958 British Empire and Commonwealth Games |
Rhanbarth | Caerdydd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gyda 1,358 o athletwyr a swyddogion o 35 o wledydd, dyma oedd y Gemau mwyaf hyd yma gyda 10 o wledydd yn ymddangos am y tro cyntaf. Hefyd cyflwynwyd Taith Gyfnewid Baton y Frenhines am y tro cyntaf, arferiad cyn pob un o'r Gemau ers 1958.
Dyma oedd ymddangosiad olaf De Affrica yn y Gemau hyd nes diwedd cyfnod apartheid wedi i'r wlad dynnu allan o'r Gymanwlad ym 1961.
Cafwyd 35 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Ymerodraeth Brydeinig a'r Gymanwlad, 1958 gyda Brwnei, Dominica, Gibraltar, Gogledd Borneo, Jersey, Malta, Sarawak, St Vincent, Singapôr ac Ynys Manaw yn ymddangos am y tro cyntaf.
|
Safle | Cenedl | Aur | Arian | Efydd | Cyfanswm |
---|---|---|---|---|---|
1 | Lloegr | 29 | 22 | 29 | 80 |
2 | Awstralia | 27 | 22 | 17 | 66 |
3 | De Affrica | 13 | 10 | 8 | 31 |
4 | Yr Alban | 5 | 5 | 3 | 13 |
5 | Seland Newydd | 4 | 6 | 9 | 19 |
6 | Jamaica | 4 | 2 | 1 | 7 |
7 | Pacistan | 1 | 5 | 2 | 10 |
8 | India | 2 | 1 | 0 | 3 |
9 | Singapôr | 2 | 0 | 0 | 2 |
10 | Canada | 1 | 10 | 16 | 27 |
11 | Cymru | 1 | 3 | 7 | 11 |
12 | Gogledd Iwerddon | 1 | 1 | 3 | 5 |
13 | Bahamas | 1 | 1 | 0 | 2 |
Barbados | 1 | 1 | 0 | 2 | |
15 | Malaya | 0 | 2 | 0 | 2 |
16 | Nigeria | 0 | 1 | 1 | 2 |
17 | Guiana Prydeinig | 0 | 1 | 0 | 1 |
Wganda | 0 | 1 | 0 | 1 | |
19 | De Rhodesia | 0 | 0 | 3 | 3 |
20 | Cenia | 0 | 0 | 2 | 2 |
21 | Ghana | 0 | 0 | 1 | 1 |
Ynys Manaw | 0 | 0 | 1 | 1 | |
Trinidad a Tobago | 0 | 0 | 1 | 1 | |
Cyfanswm | 94 | 94 | 104 | 292 |
Roedd 123 aelod yn nhîm Cymru.
Medal | Enw | Cystadleuaeth | |
---|---|---|---|
Aur | Howard Winstone | Bocsio | Pwysau bantam |
Arian | Malcolm Collins | Bocsio | Pwysau plu |
Arian | Robert Higgins | Bocsio | Pwysau is-drwm |
Arian | John Merriman | Athletau | 6milltir |
Efydd | Don Skene | Beicio | 10milltir |
Efydd | Donald Braithwaite | Bocsio | Pwysau pry |
Efydd | Bill Brown | Bocsio | Pwysau is-ganol |
Efydd | Roger Pleace | Bocsio | Pwysau trwm |
Efydd | J Preston M.V. Kerslake J.J. Evans J McCombe a R.A. Maunder | Ffensio | Ffoil i dimau |
Efydd | J Preston R.A. Maunder M.V. Kerslake T.R. Lucas a J Preston | Ffensio | Sabre i dimau |
Efydd | David Edwards John Fage David Prichard a John Edwards | Rhwyfo | Pedwarawd heb cox |
Rhagflaenydd: Vancouver |
Gemau'r Gymanwlad Lleoliad y Gemau |
Olynydd: Perth |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.