Athletau (trac a chae)

From Wikipedia, the free encyclopedia

Athletau (trac a chae)

Dosbarth o chwaraeon yw athletau, neu athletau trac a chae, sy'n cynnwys rhedeg, taflu, neidio a cherdded. Daw'r enw o'r gair Groeg athlos sy'n golygu "gornest". Y cystadlaethau mwyaf cyffredin yw trac a chae, rhedeg lôn a thraws gwlad. Dim ond mewn ras gyfnewid mae athletwyr yn cystadlu fel tîm, yn amlach na pheidio, camp i'r unigolyn yw athletau.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...
Athletau
Thumb
Trac rhedeg yn Stadiwm Olympaidd Helsinki, y Ffindir
Enghraifft o:math o chwaraeon 
Mathchwaraeon olympaidd, athletics 
Yn cynnwysrunning discipline of track, racewalking, jumping, throwing, combined track and field events, track and field, field sport, indoor athletics, long-distance running 
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cau

Cystadleuthau

  • Cystadleuthau trac - rhedeg ar drac 400 metr.
    • Sbrint: cystadleuthau hyd at ac yn cynnwys 400m. Rhai cyffredin: 60m (tu mewn yn unig), 100m, 200m, 300m a 400m.
  • Cystadleuthau pellter: cystadleuthau rhwng 800m a 3000m, 800m, 1500m, milltir a 3000m.
    • Ras ffos a pherth - ras (fel arfer 3000m) lle mae rhedwyr yn ymdrin â rhwystrau a neidiau dros ddŵr.
    • Ras glwydi: clwydi tal 110m (100m merched) a 400m canolig.
    • Ras gyfnewid: 4 x 100 m, 4 x 400m, ras gyfnewid 4 x 200m, ras gyfnewid 4 x 800m, ras gyfnewid 4 x 1 Milltir, ayb.
  • Rhedeg ffordd: yn cael ei gynnal ar y ffordd agored, ond yn aml yn gorffen ar drac. Pellteroedd cyffredin: 5 km, 10 km, hanner-marathon a marathon.
  • Ras gerdded: fel arfer yn cael ei gynnal ar y ffordd agored. Pellteroedd cyffredin: 10 km, 20 km a 50 km.
  • Cystadleuthau cae
  • Cystadleuthau aml-ddisgyblaeth
    • Decathlon
    • Heptathlon
    • Pentathlon
    • Cystadleuthau neidio
      • Naid bolyn
      • Naid driphlyg
      • Naid hir
      • Naid uchel
    • Cystadleuthau taflu
      • Taflu'r disgen
      • Taflu gwaywffon
      • Taflu’r maen
      • Taflu'r morthwyl
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.