Wganda
gwlad From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Gwlad yn nwyrain Affrica yw Gweriniaeth Wganda, neu Wganda yn syml (hefyd Iwganda). Mae De Swdan i'r gogledd ohoni, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo (Kinshasa) i'r gorllewin, Rwanda a Tansanïa i'r de, a Cenia i'r dwyrain. Nid oes iddi arfordir, a hi yw'r ail wlad o'r fath ar ôl Ethiopia. Mae Wganda wedi ei lleoli yn Ardal y Llynnoedd Mawrion ac mae rhan deheuol y wlad yn cynnwys talp enfawr o Lyn Victoria. Mae hefyd ym masn a tharddle'r Afon Nîl ac mae ei hinsawdd yn amrywiol, ond gan mwyaf yn gyhydeddol.
Mae hi'n wlad annibynnol ers 1962 pan dorrodd yn rhydd o'r Deyrnas Unedig. Prifddinas a dinas fwyaf Wganda heddiw yw Kampala. Tarddiad ei henw yw Brenhiniaeth Bwganda, hen frenhiniaeth yn ne'r wlad sydd hefyd yn cynnwys Kampala. Hyd at 1,700-2,300 blynedd yn ôl, helwyr oedd pobl yr ardal; daethant a'r iaith Bantw gyda nhw gan gartrefu yn rhannau deheuol y wlad yn gyntaf.
Bu Ymerodraeth Prydain yn rheoli'r ardal o 1894 ymlaen, fel protectoriaeth (protectorate) a ddaeth a'i deddfau gyda hi er mwyn rheoli'r wlad yn ei dull hi. Daeth annibyniaeth ar 9 Hydref 1962 a lladdwyd llawer ym mrwydr y wlad dros annibyniaeth a chlwyfwyd degau o filoedd o'r brodorion.
Mae rhai pethau wedi goroesi o'r dyddiau Prydeinig hynny gan gynnwys y Saesneg, sy'n brif iaith swyddogol y wlad.[1] Ymhlith yr ieithoedd eraill y mae Lwganda, a siaredir gan lawer, yn enwedig yng nghanol y wlad; ceir hefyd y Runyoro, Runyankole, Rukiga a'r Lango. Arlywydd y wlad (2020) yw Yoweri Museveni, a ddaeth i rym yn Ionawr 1986.
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

