Fochriw
pentref ym Mwrdeistref Sirol Caerffili From Wikipedia, the free encyclopedia
pentref ym Mwrdeistref Sirol Caerffili From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref yng nghymuned Cwm Darran, bwrdeistref sirol Caerffili, Cymru, yw Fochriw.[1][2] Saif yn rhan uchaf Cwm Darran, neu Bargoed Fach, ychydig i'r gorllewin o briffordd yr A469 ac i'r de-orllewin o dref Rhymni.
Ar un adeg roedd Fochriw yn ardal lofaol bwysig, gyda nifer o weithfeydd glo yn y cylch. Erbyn hyn, mae llawer o olion y cyfnod hwn wedi diflannu oherwydd gwaith adfer y dirwedd. Mae dwy ran i'r pentref, Ysgwyddgwyn a Brithdir, gyda nant Bargoed Fach yn eu gwahanu.
Ceir ysgol ar gwr y pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Dawn Bowden (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Gerald Jones (Llafur).[4]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.